Seremoni torri tywarchen yn nodi dechrau'r gwaith o adeiladu ysgol newydd Pontsenni
21 Mai 2026
Roedd y seremoni, a gynhaliwyd ddydd Mercher 13 Mai, yn dathlu dechrau buddsoddiad mawr mewn addysg leol, gan ddod â blynyddoedd o gynllunio yn fyw ac yn nodi dechrau'r gwaith ar gyfleusterau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi disgyblion, staff a theuluoedd ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Powys a'i gontractwr penodedig Kier, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu 65% o'r costau adeiladu o £9.6 miliwn, a £500,000 ychwanegol i gefnogi elfennau Carbon Sero Net y gwaith adeiladu. Ariennir y 35% o'r costau adeiladu sy'n weddill gan y Cyngor.
Mynychodd ddisgyblion a staff Ysgol GG Pontsenni ynghyd â chynrychiolwyr o'r cyngor a Kier Construction y seremoni torri tywarchen, a oedd yn nodi dechrau ffurfiol y prif waith adeiladu.
Bydd y prosiect yn darparu ysgol gynradd newydd 120 o leoedd, gan gymryd lle'r adeilad presennol gyda chyfleusterau modern, ynni-effeithlon ac addas i'r diben. Bydd yr ysgol newydd yn cefnogi addysgu a dysgu o ansawdd uchel o'r Cyfnod Sylfaen hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, gyda darpariaeth gofal plant blynyddoedd cynnar wedi'i lleoli ar y cyd ar yr un safle i gryfhau'r ddarpariaeth leol i deuluoedd.
Wedi'i gynllunio gyda chynaliadwyedd a lles wrth ei wraidd, bydd yr adeilad newydd yn darparu amgylchedd dysgu ysbrydoledig sy'n cefnogi datblygiad disgyblion, yn gwella canlyniadau addysgol ac yn lleihau'r effaith amgylcheddol yn sylweddol.
Mae'r buddsoddiad yn rhan allweddol o Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys ac mae'n cefnogi'n uniongyrchol ei uchelgais ar gyfer Powys Gryfach, Tecach a Gwyrddach drwy greu amgylchedd dysgu modern, cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y dyfodol .
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson Watt, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Roedd hon yn foment falch a chyffrous i gymuned yr ysgol gyfan. Mae'r seremoni torri tywarchen yn nodi dechrau prosiect a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i blant sy'n tyfu i fyny yn yr ardal.
"Mae darparu amgylcheddau dysgu modern, o ansawdd uchel fel hyn yn rhan ganolog o'n Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys. Bydd yr ysgol newydd yn darparu mannau ysbrydoledig sy'n cefnogi addysgu, dysgu a lles disgyblion, ac hefyd yn bodloni ein hymrwymiad i gynaliadwyedd trwy ddylunio ynni-effeithlol, sy'n canolbwyntio ar y dyfodol.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu ein huchelgais ehangach ar gyfer Powys Gryfach, Tecach a Gwyrddach - gan greu ysgol sy'n cefnogi rhagoriaeth addysgol, yn hyrwyddo cyfle cyfartal ac yn lleihau'r effaith amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau i ddod."
Dywedodd Mrs Keri Lynne Harry, Pennaeth Ysgol GG Pontsenni "Mae hon yn foment hynod gyffrous i'n hysgol a chymuned gyfan Pontsenni. Mae gweld gwaith yn dechrau ar ein hysgol newydd yn nodi dechrau pennod newydd ddisglair i'n plant, teuluoedd a chenedlaethau'r dyfodol.
"Ers blynyddoedd lawer, mae ein hysgol bresennol wedi bod wrth galon y gymuned, gan greu atgofion a chefnogi cenedlaethau o ddisgyblion. Bydd yr adeilad newydd hwn yn adeiladu ar yr hanes balch hwnnw trwy ddarparu amgylchedd modern, ysbrydoledig a chynhwysol lle gall pob plentyn deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyflawni eu potensial llawn.
"Mae ein plant yn haeddu'r cyfleoedd gorau i ddysgu, tyfu a ffynnu, a bydd y cyfleusterau newydd gwych hyn yn ein helpu i greu amgylchedd sy'n adlewyrchu'r uchelgeisiau hynny. Bydd y ffocws ar les, cynaliadwyedd a dysgu o ansawdd uchel o fudd nid yn unig i'n disgyblion, ond i'r gymuned ehangach am flynyddoedd i ddod.
"Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Sir Powys, Llywodraeth Cymru a Kier am eu cefnogaeth a'u buddsoddiad yn nyfodol Pontsenni. Ni allwn aros i weld ein disgyblion yn cerdded trwy ddrysau ysgol sydd wedi'i chynllunio gyda'u dyfodol wrth ei chalon."
Dywedodd Ian Rees, cyfarwyddwr rhanbarthol Kier Construction Western & Wales: "Mae'r prosiect hwn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn nyfodol addysg ym Mhontsenni, ac rydym yn falch o fod yn chwarae ein rhan wrth ddod â'r broses yn fyw.
"Yn gweithio gyda Chyngor Sir Powys ac Ysgol GG. Pontsenni, byddwn yn darparu adeilad modern, cynaliadwy a fydd yn creu gofodau disglair, ynni-effeithlon i gefnogi dysgu ar gyfer cenedlaethau i ddod.
"Mae'r seremoni torri tywarchen yn garreg filltir allweddol yn y prosiect ac rydym yn edrych ymlaen at fwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu ar y safle dros y misoedd nesaf."
Mae rhagor o wybodaeth am Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg ar gael yn: Trawsnewid Addysg
Llun: Ymunodd ddysgwyr a staff Ysgol GG Pontsenni â chynrychiolwyr o Gyngor Sir Powys a Kier wrth i'r seremoni dorri tywarchen nodi dechrau'r gwaith adeiladu ar adeilad ysgol newydd Ysgol GG Pontsenni. Ysgol.
