Y Cyngor yn ymateb i ddigwyddiad seiber sy'n effeithio ar systemau ysgolion
4 Mehefin 2026
Nodwyd y digwyddiad yn wreiddiol ym mis Ebrill 2026 a chafodd ei atal yn gyflym. Cymerwyd camau gweithredu cadarn ar unwaith i ddiogelu systemau a chyfyngu ar effaith Bellach. Mae arbenigwyr a phartneriaid arbenigol wrthi'n cefnogi ymchwiliad manwl a pharhaus.
Mae canfyddiadau cynnar yn cadarnhau bod rhywfaint o ddata personol yn ymwneud â disgyblion, staff ac eraill sy'n gysylltiedig â'r ysgol wedi'i gyrchu o un ysgol. Mae gwaith yn parhau i ddeall cwmpas y digwyddiad yn llawn ac adnabod pawb yr effeithiwyd arnynt.
Dywedodd y Cynghorydd Raiff Devlin, Aelod Cabinet dros Gwsmeriaid, Gwasanaethau Digidol a Chymunedol a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu:
"Rydym yn deall y bydd y digwyddiad hwn yn peri pryder mawr i rieni, staff a'r gymuned ehangach. Rydym am sicrhau pobl fod camau gweithredu wedi'u cymryd ar unwaith i ddiogelu systemau, ac mae ymchwiliad llawn ar y gweill gyda chefnogaeth arbenigol.
"Rydym yn cysylltu ag unigolion yr effeithir arnynt yn uniongyrchol lle bo angen ac yn rhoi cyngor ar y camau y gallant eu cymryd i amddiffyn eu hunain.
"Mae diogelwch a lles disgyblion a staff yn parhau i fod o'r flaenoriaeth bennaf, ac rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw wrth i'n hymchwiliad fynd rhagddo a byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion drwyddi draw."
Mae ysgolion yn parhau ar agor ac yn weithredol, ac nid oes unrhyw dystiolaeth o amhariad ar ddarpariaeth addysg.
Am fwy o wybodaeth, ewch i Seiberddiogelwch
