Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynediad at gefn gwlad a thir comin

Hiking icon

Ym mis Mai 2005, fe wnaeth y cyhoedd ennill yr hawl i gael mynediad i gefn gwlad, ar dir a ddynodir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru fel 'Tir Mynediad'. Mae hyn yn cynnwys 'tir agored' a ddiffinnir fel 'mynydd, gweundir a rhostir' ac sydd oll wedi'u cofrestru fel Tir Comin.

Golyga hyn y gallwch erbyn hyn gael mynediad ar droed i wneud gweithgareddau hamdden megis cerdded, rhedeg, edrych ar adar a chael picnig. Nid oes hawliau mynediad newydd wedi cael eu rhoi i farchogion, seiclwyr na defnyddwyr cerbydau.

Gweler hefyd: Mynediad i Gerbydau

 

entering Access Land icon

 

Mae'r symbol hwn yn dangos eich bod ar Dir Mynediad neu'n myned arno

 

 

 

leaving Access Land icon

 

 

Mae'r symbol hwn yn dangos eich bod yn gadael Tir Mynediad

 

 

Faint o Dir Mynediad sydd yna ym Mhowys?

Yn ychwanegol at Dir Comin a 'chefn gwlad agored' sydd wedi'i ddynodi, mae'r  Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dynodi mwyafrif y tir dan ei reolaeth fel Tir Mynediad. Oherwydd mai llawer o ucheldir sydd ym Mhowys yn bennaf, mae ganddo gyfran uwch na'r cyfartaledd o Dir Mynediad, 150,000 hectar. Mae hynny'n 29% o fas tir Powys!

 

Sut allaf ddod i wybod lle mae'r Tit Mynediad?

Y ffordd orau o ddod o hyd i Dir Mynediad yw edrych ar fap Arolwg Ordnans. Ar y mapiau hyn, dangosir Tir Mynediad gyda lliw melyn golau. Neu cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Sut mae'r Tir Mynediad yn cael ei reoli?

Gwasanaethau Cefn Gwlad sy'n rheoli Tir Mynediad ym Mhowys. Fodd bynnag, caiff Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei reoli gan Awdurdod y Parc yn uniongyrchol.

Y  Cyngor yw'r Awdurdod Mynediad ar gyfer tir Mynediad, ac mae'r Swyddogion Hawliau Tramwy'n rheoli tir Mynediad, yn ogystal â'r hawliau tramwy cyhoeddus yn eu hardaloedd. Mae hyn yn cynnwys darparu cyngor, gwneud gwaith cynnal a chadw, goso cyfeirbwyntiau ar dir Mynediad, ac mewn amgylchiadau prin, cymryd camau gorfodi.

Cysylltiadau

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma