Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybrau awyr agored a llety hygyrch

 
Image of dam
Rydym wedi gweithio gyda'r elusen Disabled Holiday Information i gyhoeddi canllawiau Powys Hygyrch. Nod y canllawiau yw gwneud Powys yn fwy hygyrch i bobl gyda gofynion am fynediad haws; megis defnyddwyr cadeiriau olwyn, rhieni gyda phlant bach a phobl gydag ychydig iawn o allu i gerdded.

 

Canllaw Llety

Bwriad y llyfryn hwn yw rhoi syniad o'r amrywiaeth eang o lety hygyrch sydd ar gynnig o fewn y sir. Trwy gyfuno hyn gyda data hygyrchedd cynhwysfawr ar wefan Disabled Holiday Information, rydym yn gobeithio y bydd yn helpu pobl sydd angen lle hygyrch i aros ynddo i gael gwyliau gwell.

Mae pob lle sydd wedi'i gynnwys wedi derbyn ymweliad ac asesiad ar gyfer hygyrchedd gan un o dimau ymchwilio DHI. Mae pob tîm yn cynnwys pobl sydd ag anghenion am fynediad haws, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn. Bydd gan yr holl lety dan sylw o leiaf un fynedfa i gadeiriau olwyn, un ystafell wely gyda mynediad hawdd ac ystafell wlyb / cawod mynediad gwastad. Er ein bod wedi ymdrechu i sicrhau y bydd y llety yn diwallu anghenion mynediad y mwyafrif o bobl, noder fodd bynnag ein bod yn argymell yn gryf eich bod yn ymgynghori gyda phob darparwr am eich gofynion penodol eich hunan.

 

Lawrlwytho'r Llawlyfr ar gyfer Llety Hygyrch ym Mhowys

 

Canllaw Llwybrau

Mae'r canllaw yn cynnwys manylion amrywiol safleoedd a llwybrau sy'n addas i bobl sydd angen mynediad haws. Nid yw'r llyfryn hwn wedi'i gynllunio i fod yn ganllaw cynhwysfawr i bob ardal, ond mae'n rhoi syniad i ymwelwyr o'r dewis eang o safleoedd cefn gwlad hygyrch sydd ar gael o fewn y sir hon. Noder y bydd tudalennau gwe Disabled Holiday Information ar gyfer Powys yn cynnwys gwybodaeth fanylach, sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd.

 

Gweithgareddau Hygyrch

Y llyfryn diweddaraf i'w ychwanegu at y prosiect yw'r Llyfryn Gweithgareddau a lansiwyd ym mis Mawrth 2014.  Mae'r llyfryn yn cynnwys gweithgareddau ar draws y sir sy'n addas i bobl sydd ag anghenion mynediad, gan gynnwys pobl gyda chyflyrau meddygol neu anableddau tymor hir sy'n amharu ar ffordd o fyw, pobl h?n a theuluoedd â phlant.  Mae Powys yn sir y  gallwch fynd allan a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau, beth bynnag yw eich amgylchiadau chi.

 

Crëwyd cyfres o fideos hyrwyddo  hefyd fel rhan o'r prosiect sy'n dangos nifer o'r gweithgareddau yn y llyfryn.

 

Parc y Creigiau

Sefydlwyd Parc y Creigiau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel ardal hamdden ar adeg pan ddenai'r dref luoedd o ymwelwyr i yfed dwr ei ffynhonnau naturiol. Erbyn heddiw, mae Parc y Creigiau wedi'i restru fel heneb Gradd 2 yng Nghofrestr Parciau a Gerddi Cymru Cadw.

Rock Park map

Mae nentydd ac ardaloedd coediog hyfryd yn y parc 12 erw, sy'n cynnwys llwybrau a phontydd hygyrch. Oherwydd wyneb naturiol y tirwedd yn y parc, bydd ambell lwybr yn anodd iawn i rai. Mae'r map yn dangos sut y gallwch gyrraedd gwahanol rannau o'r parc; o'r Ffynnon Haearn i un o'r golygfeydd mwyaf prydferth dros afon Ithon a'r llwybr i Llam y Cariadon.

Parcio: Mae man parcio gwastad ar gael rhwng Maes Parcio'r Ystafell Bwmpio a Maes Parcio'r Clwb Bowlio.

Toiledau: Sylwch NAD OES TOILEDAU HYGYRCH yn y parc. Mae'r rhai agosaf yn yr Orsaf Drenau, tua 5 munud mewn car o'r parc (RADAR).

 

Beicio i Bob Gallu ym Mhowys

Erbyn hyn, mae gan ymwelwyr â Phowys y cyfle i logi beiciau trydan, beiciau tamdem a beiciau i bobl anabl o ganolfannau mewn mannau cyfleus sef Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan a Drovers Cycles yn y Gelli Gandryll. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen Beicio i bawb o bob gallu ym Mhowys

Gallwch roi gwybod am unrhyw nam ar lwybr beicio yma Rhoi gwybod am broblem gyda llwybr seiclo

 

Cafodd y llyfrynnau hyn eu hariannu gan:

Powys Kite
  
WAG logo
 
CCW logo