Gofyn am gopi o dystysgrif
Dim ond o fis Gorffennaf 1837 y cedwir cofnodion ar gyfer Genedigaeth, Marwolaeth a Phriodas, ac o Ragfyr 2005 ar gyfer Partneriaethau Sifil.
DIM OND tystysgrifau ar gyfer genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil a gynhaliwyd ym Mhowys y gallwn eu darparu.
Os wnaeth y digwyddiad gymryd lle yn rhywle arall, fel ysbyty mewn sir arall, bydd angen i chi wneud cais i'r ardal honno am y dystysgrif. Ar gyfer genedigaethau a marwolaethau, mae'n bosibl bod datganiad wedi'i wneud ym Mhowys, ond NI FYDDEM yn cadw'r cofnodion.
Os hoffech wneud cais am dystysgrif mabwysiadu neu dystysgrif genediaeth farw, ewch i wefan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO) neu cysylltwch â'r Swyddfa yn uniongyrchol ar 0300 123 1837.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu'r holl wybodaeth y gofynnir amdani fel y gallwn ddod o hyd i'r dystysgrif sydd ei hangen arnoch.
Gwasanaeth ar-lein yw hwn. Mae gwybodaeth a chyfarwyddiadau llawn ar gael trwy gydol y broses. Bydd angen i chi dalu â charden debyd neu credyd.
Ffioedd tystysgrifau
Sylwch nad yw chwiliadau hanes teulu yn amodol ar y cyfnod aros statudol o 15 diwrnod. Lle bo angen ymchwil helaeth, gall ffi chwilio ychwanegol fod yn berthnasol.
Cysylltu:
- Ebost: hanes.teulu@powys.gov.uk
- Ffôn: 01597 827468