Eiddo Gwag
Rydym am weld cymaint â phosibl o eiddo gwag Powys yn cael eu defnyddio unwaith eto. Felly rydym wedi datblygu amrywiol becynnau ariannol i geisio cymell pobl i wneud y gwaith angenrheidiol er mwyn i'r eiddo gael ei ddefnyddio unwaith yn rhagor.
Mae tai sy'n sefyll yn wag yn gallu achosi niwsans a difrod i gartrefi cyfagos. Maen nhw'n wastraff oherwydd fe ellir eu defnyddio fel cartrefi. Gallwn gynghori perchnogion eiddo gwag i'w helpu i sicrhau fod y ty yn dod yn ôl i ddefnydd.
Os bydd y perchennog yn gwrthod dod â'r ty yn ôl i ddefnydd neu'n gwrthod ei atgyweirio, gall y Cyngor:
- Gyflwyno rhybudd i'r perchennog gyflawni atgyweiriadau, a chynnal y gwaith ei hunan os na fydd y perchennog yn llwyddo i wneud hyn
- Mewn amgylchiadau eithriadol, gall orfodi gwerthu'r eiddo i ad-dalu dyledion penodol sy'n ddyledus i'r cyngor.