Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud newidiadau i hawl tramwy cyhoeddus

Mae'r Map Diffiniol a'r datganiad ysgrifenedig sydd gyda'r map yn gofnod cyfreithiol o hawliau tramwy cyhoeddus ym Mhowys.  Nid yw'n bosibl i chi weld y Map Diffiniol ar-lein ar hyn o bryd ond gallwch ei weld fel copi caled yn ein swyddfeydd yn Y Gwalia, Llandrindod.  Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd daro golwg drosto, am ddim, yn ystod oriau gwaith arferol TRWY APWYNTIAD YN UNIG. 

Cysylltwch â Gwasanaethau Cefn Gwlad trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen.

Os ydych yn gynrychiolydd cyfreithiol, megis cyfreithiwr sy'n gweithredu ar ran cleient, gallwch wneud cais ysgrifenedig i chwilio'r Map Diffiniol.  Codir tâl o £20 am y gwasanaeth hwn.

Mae'n bosibl gwneud cais i wneud newidiadau i'r rhwydwaith.  Mae manylion sut i wneud hyn ar y dudalen hon o dan y pennawd Gorchmynion Diwygio.

 

Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus

Gellir creu, gwyro a chau Hawliau Tramwy Cyhoeddus, ond rhaid dilyn trefn gyfreithiol lem.  Mae manylion y gweithdrefnau hyn yn:-

  • Deddf Priffyrdd 1980 - i wyro, cau a chreu hawliau tramwy.  Gallwn ddefnyddio'r Gorchmynion hyn pan fydd y newidiadau sy'n cael eu cynnig  er budd y cyhoedd, y perchennog, y prydleswr neu ddeiliad y tir sy'n cael ei groesi gan lwybr(au).

  • Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 - i wyro a chau llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig sy'n cael eu heffeithio gan ddatblygiad.

Gallwch wneud cais i'r cyngor am Orchymyn Llwybr Cyhoeddus ar gyfer llwybr(au) cyhoeddus ar dir sy'n berchen i chi neu gyda chaniatad ysgrifenedig  perchennog y tir.  Mae'n rhaid i ni eich rhybuddio bod y drefn ar gyfer prosesu ceisiadau yn un hir, ac ni allwn roi unrhyw sicrwydd y bydd eich cais yn llwyddiannus.  

Rydym yn blaenoriaethu ceisiadau gan ddilyn y categoriau cyffredinol canlynol:  bydd cynigion tebyg o fewn categori yn cael eu prosesu yn nhrefn dyddiad y cais.  Mae'r rhestr isod yn nhrefn blaenoriaeth, gyda'r flaenoriaeth uchaf yn gyntaf.

  1. Cynigion lle mae angen Gorchymyn llwybr cyhoeddus er mwyn caniatáu datblygiad a ganiateir: Anogir datblygwyr i gynnwys unrhyw hawliau tramwy cyhoeddus yn eu cynlluniau safle, er  mwyn osgoi'r costau a'r oedi a allai ddigwydd pe byddai angen gwyro neu gau'r llwybrau. Lle na fydd hyn yn bosibl, mae'n rhaid i ni brosesu ceisiadau dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 cyn gynted â phosibl. Er mwyn blaenoriaethu'r ceisiadau hyn, heb effeithio'n ormodol ar unrhyw geisiadau eraill, rhaid i ddatblygwyr gynnal eu hymgynghoriad cyn-Orchymyn eu hunain; mae hyn yn lleihau'r gwaith y bydd angen i swyddogion y Cyngor ei wneud. Yn dilyn cyfarfod ar y safle gyda Gwasanaethau Cefn Gwlad wedi iddynt dderbyn cais boddhaol, bydd y datblygwr yn derbyn y wybodaeth angenrheidiol i allu cynnal yr ymgynghoriad yma.
  2. Cynigion sy'n cael gwared ar ymrwymiadau cynnal a chadw sylweddol, neu'r rheiny sy'n datrys risgiau iechyd a diogelwch brys: Lle ceir risg diogelwch brys, mae'n bosibl y bydd modd cau'r llwybr dros dro yn y tymor byr; fodd bynnag, mae'n bosibl mai Gorchymyn llwybr cyhoeddus fydd yr unig ffordd ymarferol i ailagor y llwybr yn y tymor hir. Gall Gorchymyn llwybr cyhoeddus hefyd ganiatáu i ni agor llwybrau na fu modd eu cyrraedd ers y cyfnod y cawsant eu cofnodi ar y Map Diffiniol, o ganlyniad i ffactorau y tu hwnt i reolaeth perchennog y tir, ac nad oes modd eu datrys mewn unrhyw ffordd arall. 
  3. Cynigion sy'n datrys risgiau iechyd a diogelwch posibl yn y tymor hir a'r rheiny sy'n arwain at welliant cyffredinol i'r rhwydwaith hawliau tramwy: Mae'n bosibl bod risgiau iechyd a diogelwch sy'n cael eu rheoli'n ddigonol yn y tymor byr effeithio ar rai llwybrau. Ond gallai fod o fudd yn y tymor hir i ddefnyddwyr y llwybrau a pherchnogion y tir pe byddai'r llwybr yn cael ei symud. Neu gallai cynigion olygu gwelliannau cyffredinol i rwydwaith hawliau tramwy'r cyhoedd, er enghraifft trwy greu cyswllt rhwng llwybrau pengaead a ffyrdd neu lwybrau cyhoeddus eraill.
  4. Cynigion y teimlir eu bod er budd yr ymgeisydd yn bennaf (ond heb fod yn gysylltiedig â datblygiad a ganiateir): Cynigion yw'r rhain lle na welwyd unrhyw angen i newid hynt y llwybr o safbwynt mynediad neu gynnal a chadw'r llwybrau, na'r rhwydwaith o'i amgylch, ond y mae perchennog y tir neu aelod arall o'r cyhoedd yn gwneud cais amdano.

Defnyddiwch y ddolen isod i lawrlwytho nodiadau cyfarwyddyd Cyngor Sir Powys ynghylch gwneud cais am Orchymyn llwybr cyhoeddus. Maent yn cynnwys gwybodaeth am y meini prawf cyfreithiol ac ymarferol y mae'n rhaid i'r cais eu cyflawni, y gweithdrefnau y mae angen eu dilyn, a chostau gwneud cais am Orchymyn llwybr cyhoeddus.

Lawrlwytho'r nodiadau cyfarwyddyd Gorchymyn Llwybr Cyhoeddus (PDF) [162KB]

Website accessibility checker icon
    Mae'r pdf hwn wedi cael ei wirio am hygyrchedd

 

Gorchmynion Addasu'r Map Diffiniol

Os rydych yn meddwl bod y Map Diffiniol yn anghywir, gallwch wneud cais am Orchymyn Addasu, dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. 

Fe all hyn fod i ychwanegu llwybr sydd ar goll o'r cofnod, neu ddileu llwybr a gofnodwyd mewn camgymeriad.  Gallwch hefyd wneud cais i uwchraddio neu israddio statws llwybr, neu newid unrhyw fanylion eraill yn y cofnod cyfreithiol, fel y rheiny sydd wedi'u cofnodi yn y Datganiad Diffiniol.

I wneud cais am Orchymyn Addasu, rydym angen tystiolaeth dda bod camgymeriad wedi digwydd.  Gallai hyn gynnwys datganiadau gan ddefnyddwyr y llwybr neu eraill â gwybodaeth leol, ymchwilio i ddogfennau a mapiau hanesyddol, neu gyfuniad o'r ddau. Gallai'r broses fod yn gymhleth a chymryd cryn amser ac yn anodd ac ni allwn sicrhau y byddwch yn llwyddo. 

Os rydych yn ystyried gwneud cais, dylech gysylltu â'r Swyddog Hawliau Tramwy gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon i drafod yr hyn fydd angen i chi ei wneud a'r amser y bydd hyn yn debygol o'i gymryd. 

 

Datganiadau a Chynlluniau statudol a wnaed o dan Adran 31(6) Deddf Priffyrdd 1980

Mae'r ddarpariaeth gyfreithiol hon yn caniatau i berchnogion tir roi tystiolaeth i'r Cyngor Sir am eu bwriad i BEIDIO dynodi unrhyw hawliau tramwy cyhoeddus newydd ar eu tir.  Bydd hyn yn golygu na fydd unrhyw hawliadau Gorchmynion Diwygio yn y dyfodol ar gyfer 'cyflwyniad tybiedig' llwybrau ychwanegol, yn seiliedig ar dystiolaeth defnyddwyr ar ôl cyflwyno.  Serch hynny, ni fydd yn negyddu unrhyw dystiolaeth a roddwyd cyn cyflwyno.

Daw'r dystiolaeth ar ffurf:

  1. cynllun o'r tir, yn dangos ei leoliad a ffiniau ac unrhyw lwybrau cyhoeddus sy'n bodoli (os ydynt ar y Map Terfynol neu beidio), ynghyd â
  2. datganiad wedi'i arwyddo yn datgan nad oes gan berchennog y tir fwriad i ddynodi unrhyw lwybr cyhoeddus arall.  Rhaid cael Datganiad Statudol cyffelyb o fewn 10 mlynedd, a bob 10 mlynedd wedi hynny.

Os ydych am gyflwyno datganiad, cysylltwch â'r Swyddog Hawliau Tramwy gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon am wybodaeth ac i ofyn am y ffurflenni. 

Mae croeso i chi edrych ar yr Adran 31(6) yn ystod oriau swyddfa arferol.  Ffoniwch Gwasanaethau Cefn Gwlad i drefnu apwyntiad.

 

Cysylltiadau

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma