Hawliau Tramwy: Cynllun Gwella
Mabwysiadodd y cyngor ei Gynllun Gwella Hawliau Tramwy (PDF, 21 MB) ar 16 Mai 2019. Roedd rhaid cael y cynllun dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Mae'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn nodi sut bydd y cyngor yn cynllunio ac yn blaenoriaethu gwaith gwella i'r llwybrau sydd eisoes yn bodoli yn y sir. Bydd hefyd yn helpu grwpiau eraill ym Mhowys i wella mynediad i gefn gwlad. Mae'n gynllun uchelgeisiol sy'n nodi blaenoriaethau ac amcanion gwaith i'r dyfodol.
Lawr lwytho cynllun gwella hawliau tramwy (PDF, 21 MB)
Mae cynllun gwaith blynyddol yn nodi'r prosiectau a'r ardaloedd o waith gwella mynediad i gefn gwlad sy'n cael eu cynnal bob blwyddyn. Mae'r cynllun yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau a bennwyd yn y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ac yn seiliedig ar yr adnoddau sydd ar gael.
Cynllun Gwaith Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Sir Powys 2023-24 (PDF, 210 KB)
Mae rhai prosiectau wedi'u cyflwyno gan grwpiau a sefydliadau cymunedol, sydd wedi datblygu gallu gwirfoddolwyr ac wedi sicrhau grantiau allanol neu gronfeydd eraill i gefnogi'r gwaith. I osod prosiectau fel hyn, cysylltwch â rights.of.way@powys.gov.uk
Dilynwch ni ar:Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma