Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hawliau Tramwy: Hawliau a chyfrifoldebau

Mae cyfrifoldebau'r cyngor yn cynnwys:

  • Cadw hawliau tramwy'n glir o ordyfiant
  • Strimio a gwaith cynnal a chadw rheolaidd
  • Cynorthwyo ffermwyr a thirfeddianwyr i gynnal a chadw camfeydd a gatiau
  • Gosod arwyddion i ddangos lle mae llwybrau troed a llwybrau ceffyl yn gwyro oddi ar y ffordd fetel
  • Gosod arwyddion ar y llwybrau i helpu defnyddwyr eu dilyn
  • Cynnal a chadw'r rhan fwyaf o bontydd a chylfatiau

 

Mae cyfrifoldebau perchnogion tir yn cynnwys:

  • Cadw unrhyw hawliau tramwy ar eu tir yn glir o ordyfiant (h.y. gordyfiant gwrychoedd dros y llwybr)
  • Cynnal a chadw unrhyw gamfeydd a gatiau angenrheidiol ar y llwybrau
  • Cadw'r llwybr ei hun yn glir rhag rhwystrau - gan gynnwys tyfu cnydau
  • Peidio ag aredig llwybrau ar ymylon caeau, nac unrhyw gilffordd na chilffordd gyfyngedig
  • Ailsefydlu llwybrau ar draws caeau ar ôl eu haredig ac ati (yn unol â Deddf Hawliau Tramwy 1990)

 

 

Pwy sy'n gyfrifol os yw rhywun sy'n defnyddio'r llwybr yn cael anaf?

Mae perchnogion a deiliaid tir y bydd hawliau tramwy cyhoeddus yn ei groesi fod yn atebol am anafiadau a achosir i ddefnyddwyr y llwybr oherwydd esgeulustod. Er enghraifft, petai camfa yn torri o dan bwysau cerddwr, neu petai rhywun yn cael ei anafu gan ffens drydan oedd yn croesi llwybr, yna gallai'r sawl a anafwyd hawlio yn erbyn deilydd y tir.

Y cyngor sy'n gyfrifol am wyneb yr hawl tramwy cyhoeddus.  Y cyngor fyddai'n atebol am anafiadau oherwydd bod wyneb y llwybr wedi'i esgeuluso.

 

Mynediad i bobl sydd ag anawsterau symud

Nid yw camfeydd yn addas i nifer o bobl.  Mae'r Ddeddf Hawliau Tramwy a Chefn Gwlad 2000 yn mynnu ein bod yn ystyried anghenion pobl sydd ag anawsterau symudedd.

Gelwir ein polisi yn 'Agwedd sy'n Cyfyngu Lleiaf', sy'n golygu y dylai unrhyw ffensys newydd achosi cyn lleied o anhawster ag sy'n bosibl.  Giatiau fyddai'r dewis gorau yn hytrach na chamfeydd, a lle nad oes angen giat neu gamfa i reoli da byw, bwlch yn y ffens byddai'r dewis gorau. 

 

Cwn ar hawliau tramwy cyhoeddus

Caiff cwn fynd ar hawliau tramwy cyhoeddus, ond rhaid eu cadw dan reolaeth drwy gydol yr amser. Nid yw'r gyfraith yn mynnu fod yn rhaid i gi fod ar dennyn ond mae defnyddiwr sy'n caniatáu i gi grwydro oddi ar yr hawl tramwy yn dod yn dresbaswr ac mae gan berchnogion a deiliaid hawl i ofyn iddynt adael eu tir. Os yw ci'n debygol o grwydro oddi ar y llwybr, neu boeni da byw, dylai perchnogion gadw'r ci ar dennyn. Gall fod yn drosedd o dan is-ddeddf i gi faeddu ar lwybr.  Rydym yn rhoi rhybuddion ar gamfeydd, gatiau ac arwyddion yn cynghori defnyddwyr y llwybr i gadw cwn ar dennyn, neu dan reolaeth, ac mae'n drosedd i ganiatáu i gi faeddu ar briffordd drefol gyda chyfyngiad cyflymder o 30mya neu lai.

Cysylltiadau

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma