Hawliau tramwy cyhoeddus sydd ar gau'n barhaol ym Mhowys
Manylion cau'r gilffordd/llwybr ceffylau: Llwybr y Mynaich, Cwm Elan (Cilffordd Rhif LC296)/UH7 rhwng ei chyffordd â'r C204 Ffordd Rhaeadr i Gwmystwyth ger Pont ar Elan a man tua 0.75 milltir (1.2 cilomedr i'r gorllewin o Fferm Claerwen yng Ngheredigion, pellter o ryw 6.75 milltir (10.9 cilomedr) - ar gau i gerbydau gyda phedair olwyn neu fwy - ar gau oherwydd defnydd amhriodol gan gerbydau.
Daeth i rym: 19 Chwefror 1990
Manylion cau'r gilffordd/llwybr ceffylau: Grwyney Fawr (Cilffordd gyfyngedig 3 a Ffordd Ddiddosbarth y Sir Rhif 0139): Rhiw Constable, Y Mynydd Du - Rhwng y C0080/U0141 ger Penrhos, Llanelieu, Talgarth a man ger wal gardd cronfa ddŵr Grwyney Fawr yn Nyffryn Grwyney, pellter o ryw 3.4 milltir (5.5. cilomedr) - ar gau i gerbydau gyda phedair olwyn neu fwy - ar gau oherwydd defnydd amhriodol gan gerbydau.
Daeth i rym: 3 Rhagfyr 1990
Manylion cau'r gilffordd/llwybr ceffylau: Gap Road (Cilffordd gyfyngedig Rhif 21 a Ffordd Ddiddosbarth y Sir Rhif U0549: Bannau Brycheiniog rhwng y cyffyrdd â Llwybr Ceffylau Rhif 19 yng Nghoedwig Taf Fechan ger Torpantau a'r gyffordd â'r llwybr preifat sy'n arwain i Dir-rhiw i'r gogledd o Gwmcynwyn, pellter o ryw 4 milltir (6.5 cilomedr) - ar gau i bob cerbyd modur (gan gynnwys beiciau modur) - oherwydd defnydd amhriodol gan gerbydau. (Mae'r ffordd yn ail-agor i gerbydau modur bob blwyddyn rhwng 1 Mawrth a 31 Mawrth a rhwng 1 Med) a 15 Hydref)
Daeth i rym: 16 Hydref 1995 (Gorchymyn dirymu mewn grym o 22 Ebrill 2013)