Toglo gwelededd dewislen symudol

Cael cyngor bywyd gwyllt: Gwrychoedd

Wildlife_enquiries_Hedgerows_01

 
Wildlife_enquiries_Hedgerows_01
Crewyd gwrychoedd yn wreiddiol i gadw stoc o fewn neu allan o gaeau ac i nodi ffiniau perchnogaeth.  Erbyn hyn, maen nhw'n cael eu gwerthfawrogi am eu cysylltiadau diwylliannol ac hanesyddol a'u pwysigrwydd mawr i fywyd gwyllt.

I gael gwybodaeth am fioamrywiaeth gwrychoedd ewch i'n tudalennau Partneriaeth Bioamrywiaeth Powys.  Mae adran Adar y tudalennau hyn yn rhoi gwybodaeth am adar sy'n nythu mewn gwrychoedd.

 

Rheolaeth

Cyfrifoldeb y perchennog tir neu ddeiliad yw torri a phlygu gwrychoedd. Mae hyn yn cynnwys gwrychoedd wrth ymyl priffyrdd cyhoeddus neu hawliau tramwy cyhoeddus. Gall y Cyngor Sir dorri ochrau gwrychoedd ar hyd y briffordd er mwyn cadw mynediad, os nad yw hyn wedi'i wneud eisoes gan y perchennog tir.  Fel arfer bydd hyn yn effeithio ar wrychoedd sy'n tyfu allan i'r ffordd neu os yw gwrych yn gorchuddio arwydd ffordd.

I roi gwybod am broblem gyda gwrych sy'n tyfu wrth ymyl ffordd gyhoeddus defnyddiwch ein ffurflen er mwyn rhoi gwybod am broblem. 

 

Symud Gwrychoedd

Os ydych yn cael gwared ar wrych mae'n rhaid i chi gydymffurfio â Rheoliadau Gwrychoedd 1997.  Mae'n anghyfreithlon i symud neu ddinistrio rhai gwrychoedd heb ganiatâd Cyngor Sir Powys.  Os oes gennych gwestiwn am gael gwared ar wrychoedd, cysylltwch â Gwasanaethau Cynllunio.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y rheoliadau a chadwraeth a rheoli gwrychoedd ar y gwefan canlynol: 

 

Gwrychoedd Uchel

Gall y Cyngor Sir ymyrryd mewn anghydfodau am wrychoedd a choed ar ffiniau rhwng perchnogion tir preifat ond dim ond os yw Rheoliadau Gwrychoedd Uchel 2005 yn berthnasol. Os ydych am gyngor neu os ydych am wneud cwyn dan y rheoliadau, cysylltwch â Gwasanaethau Cynllunio

I gael gwybodaeth am y rheoliadau, datrys anghydfod a gwneud cwyn ewch i GOV.UK