Am wybodaeth ar archwiliadau swyddogol o'r Gofrestr Tir Comin, edrychwch am wybodaeth ar Archwiliadau Cofrestru Tir Comin.
Detholiad A4/A3 o'r Gofrestr Mapiau - isafswm o £20
Copïau o Wybodaeth Gofrestru - isafswm o £20
Archwilio Gwybodaeth am y Gofrestr - isafswm o £20 + TAW
Cyflwynwch eich cais yn ysgrifenedig a chyflwyno cynllun i nodi'r tir dan sylw. Dylid gwneud taliadau trwy siec neu gyda Cherdyn Debyd/Credyd dros y ffôn.
Cofrestrau Tir Comin a Lawntiau Trefi Neu Bentrefi
Mae'r Cyngor yn gyfrifol am gadw Cofrestr Tir Comin a Chofrestr o Lawntiau Trefi neu Bentrefi. Ar hyn o bryd, mae'n cynnal cofrestrau a luniwyd gan hen Siroedd Brycheiniog, Maesyfed a Threfaldwyn.
Cafodd y cofrestrau eu creu o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965, rhwng 1967 a 1970 ac maent yn cynnwys gwybodaeth am faint a lleoliad yr holl dir comin a'r lawntiau pentref cofrestredig ym Mhowys.
Mae gan bob ardal o dir cofrestredig sydd yn y cofrestrau Rif Uned (CL neu VG) unigryw. Mae'r cofrestrau hefyd yn nodi unrhyw hawliau tir comin ar y tir ac yn nodi manylion achosion hawlio perchnogaeth.
Gallwn gwybodaeth ar weithdrefnau ond ni allwn roi cyngor cyfreithiol. Os ydych angen cyngor cyfreithiol, neu ddehongliad o'r gyfraith, rhaid i chi gael cyngor annibynnol gan eich cyfreithiwr.
Chwilio trwy'r Gofrestr Tir Comin - Q22 - CON29(O)
I wneud chwiliad swyddogol yng nghofrestri'r tiroedd comin, bydd angen i chi ddefnyddio Cwestiwn 22.1 a 22.2 yn y ffurflen trawsgludo eang ei defnydd, sef 'CON 29(O) Optional Enquiries of the Local Authority'.
Mae Cwestiwn 22.1 yn gofyn: "A yw'r eiddo, neu unrhyw dir sy'n ffinio â'r eiddo, yn dir comin cofrestredig neu'n faes pentref dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965 neu Ddeddf Tiroedd Comin 2006?"
Y cyfan y mae ymholiad chwiliad tir comin CON29(O) yn ei wneud yw dangos a yw darn o dir neu eiddo wedi'i gofrestru'n dir comin neu faes pentref neu dref yn y Cofrestri Swyddogol. Os ydych am wybod a oes gan ddarn o dir neu eiddo'r hawl i bori anifeiliaid dros unrhyw dir ffiniol neu faes pentref gerllaw, cysylltwch â Chofrestru Tir Comin I gael y manylion. Sylwch y bydd ffi'n daladwy am gopïau o fapiau a chofnodion yn y gofrestr cofrestru.