Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y Cynllun Hawl i Brynu

Gwybodaeth i denantiaid Cyngor Sir Powys am ddiwedd yr Hawl i Brynu a'r Hawl i Gaffael yng Nghymru

Mae Gweinidog Cymru wedi atal yr Hawl i Brynu a'r Hawl i Gaffael ym Mhowys, a hynny o 17 Tachwedd 2017.

Yn ychwanegol at hyn, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu diweddu'r Hawl i Brynu, Hawl i Gaffael a hawliau cysylltiedig yn llwyr ar gyfer Cymru gyfan. Mae'r hawliau yn dod i ben ar gyfer tenantiaid cartrefi newydd ar 24 Mawrth 2018 ac ar gyfer pob tenant ar 26 Ionawr 2019. 

Mae gwybodaeth am ddiddymu'r Hawl i Brynu ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys ffurfiau hawdd i'w darllen, print mawr a gwahanol ieithoedd.

Efallai y bydd ffurfiau eraill o gymorth ar gael i'ch helpu chi i brynu cartref. Edrychwch ar wefan Llywodraeth Cymru - "Eich cartref yng Nghymru".

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau