Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyngor i Denantiaid Preifat

Deddfwriaeth newydd sy'n effeithio ar denantiaid a landlordiaid - Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Os ydych chi'n rhentu'ch eiddo, 'dyw'r landlord ddim yn ymrwymo i'w gadw mewn cyflwr perffaith, fodd bynnag mae yna rai safonau cyfreithiol y mae angen eu cyrraedd.

Os oes gennych chi broblem gyda'ch eiddo sydd wedi'i rentu sy'n golygu ei fod yn beryglus neu'n niweidiol i'ch hiechyd, e.e. dim gwres neu beryglon trydanol, dylech ofyn i'ch landlord yn y lle cyntaf. Os nad yw'r landlord yn cymryd camau i ddatrys y broblem, neu os yw'r broblem yn parhau, gallwch ddweud wrthym amdano a byddwn yn anfon swyddog i archwilio'ch cartref. Yna bydd angen i ni weithio gyda'r landlord i ddatys y mater.

Os oes angen cymorth ar unwaith e.e. os oes arogl nwy cryf neu ffitiadau trydan diffygiol, ffoniwch y rhif argyfwng ar gyfer y gwasanaethau hynny.

Gallwn archwilio cartrefi gan ddefnyddio'r "System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS)" i ddod o hyd i ddiffygion a allai fod yn risg i'ch iechyd a'ch lles.

Os nad yw'r cyngor a'r canllawiau sy'n bodoli yn arwain at welliant yng nghyflwr y tai, ac os oes risg sylweddol i iechyd a diogelwch y sawl sy'n byw ynddynt, gall y cyngor ddefnyddio'i bwerau statudol.

Byddwn yn archwilio llety sydd wedi'i rentu'n breifat, ar gais, os ydych yn pryderu am gydymffurfiaeth gyda safonau cyfreithiol.

Canllaw i Leithder a Chyddwysiad

Cymorth Ymarferol

Rhentu Doeth Cymru

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau