Hysbysiad: Efallai y bydd rhywfaint o darfu ar gasgliadau ailgylchu cartrefi a gwastraff gweddilliol (bin du, sachau porffor) dros wythnos Gŵyl y Banc.
Gallwch wneud cais am gopi o dystysgrif geni ar-lein trwy lenwi'r ffurflen. Bydd y staff yn ein Gwasanaeth Cofrestru yn cynnal chwiliad cychwynnol cyn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth i'w wneud nesaf.
Sylwer: Dim ond os cafodd y plentyn ei eni ym Mhowys y gellir cael y tystysgrifau
Cyn gwneud cais, sylwch na allwn gyflwyno tystysgrif newydd oni bai fod y gofrestr sy'n cynnwys y cofnod gwreiddiol yn ein meddiant.