Toglo gwelededd dewislen symudol

Cais am gopi o Dystysgrif Geni

Gallwch wneud cais am gopi o dystysgrif geni ar-lein trwy lenwi'r ffurflen. Bydd y staff yn ein Gwasanaeth Cofrestru yn cynnal chwiliad cychwynnol cyn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth i'w wneud nesaf.
Image of a birth certificate

Sylwer: Dim ond os cafodd y plentyn ei eni ym Mhowys y gellir cael y tystysgrifau

Cyn gwneud cais, sylwch na allwn gyflwyno tystysgrif newydd oni bai fod y gofrestr sy'n cynnwys y cofnod gwreiddiol yn ein meddiant.

Byddwn yn codi ffi am gopi o dystysgrif.

Os oedd yr enedigaeth y tu allan i Bowys, yna mae'n rhaid i chi wneud cais i'r swyddfa gofrestru sy'n gofalu am y cofnod gwreiddiol.

Gwnewch gais yma Gofynnwch am gopi o dystysgrif geni