Trethi Busnes: Beth yw gwerth ardrethol?
Ar wahân i eiddo sydd ddim yn gorfod talu Trethi Busnes, mae 'gwerth ardrethol' ar bob eiddo annomestig sydd fel arfer yn cael ei osod gan swyddogion prisio o Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Mae ailbrisio Ardrethi Busnes yng Nghymru yn digwydd ar gyfnodau a bennir gan Lywodraeth Cymru. Fel rhan o'r diwygio Ardrethi Busnes, mae ailbrisio Ardrethi Busnes wedi symud i gylch tair blynedd, er mwyn sicrhau tegwch ac adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo.
I gyfrifo rhwymedigaeth gros y trethi Busnes, lluoswch werth trethadwy'r busnes gyda'r lluosogwr trethi busnes a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Nifer ceiniogau fesul punt o werth trethadwy y bydd angen ei dalu mewn trethi busnes yw'r lluosogwr hwn, cyn didynnu unrhyw ryddhad neu ostyngiad. Bydd y lluosogwyr yn cael eu hadolygu'n flynyddol yn unol â'r gyfradd chwyddiant.
Mae gan wefan y Swyddfa Brisio wybodaeth am werth eiddo busnes. Mae modd chwilio'r wefan hefyd i weld beth yw gwerth ardrethol presennol eich eiddo.
O ran eiddo cyfansawdd sy'n rhannol ddomestig ac annomestig, bydd y gwerth ardrethol yn ymwneud â'r rhan annomestig yn unig. Mae gwerthoedd ardrethol pob eiddo masnachol ym Mhowys i'w gweld yn y rhestr ardrethu leol.
		
		
				Cysylltiadau
Y gwasanaeth treth y cyngor / trethi busnes a dyfarniadau ar gael i gymryd galwadau rhwng 9 am tan 1pm yn unig.  Ein nod yw cael digon o staff ar gael yn ystod yr oriau hyn i helpu i wella'r amser y mae'n cymryd i ateb galwadau.Eich sylwadau am ein tudalennau
		

 
			 
			 
			