Trethi Busnes: Lluosydd Ardrethu
Rydym yn cyfrifo bil treth eiddo trwy luosi ei werth ardrethol â swm penodol. Gelwir y swm hwn yn 'luosydd ardrethu' (rating multiplier)
Bob blwyddyn mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n pennu'r lluosydd. Nid yw'n gallu codi mwy na chyfradd chwyddiant (heblaw mewn blwyddyn ailbrisio).
Mae'r lluosydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol fel a ganlyn (ceiniog yn y bunt):
- 2025-2026 56.8c
- 2024-2025 56.2c
- 2023-2024 53.5c
- 2022-2023 53.5c
- 2021-2022 53.5c
- 2020-2021 53.5c
- 2019-2020 52.6c
- 2018-2019 51.4c
- 2017-2018 49.9c
- 2016-2017 48.6c
- 2015-2016 48.2c
- 2014-2015 47.2c
- 2013-2014 46.4c
- 2012-2013 45.2c
- 2011-2012 42.8c
- 2010-2011 40.9c
Er enghraifft
Os mai £15,000 yw gwerth ardrethol eich busnes, byddech yn defnyddio lluosydd 2025-26 (56.8c) i amcangyfrif eich trethi busnes fel a ganlyn:
£15,000 (gwerth ardrethol) x £0.568c (lluosydd) - £8,520.
Ffigwr sylfaenol yw hwn cyn cael unrhyw ostyngiadau.