Trethi Busnes: Beth yw ailbrisio?
Ailbrisio Trethi Busnes- Ebrill 2026
Trosolwg
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn diweddaru gwerthoedd ardrethol eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr bob tair blynedd. Gelwir hyn yn ailbrisio. Mae ailbrisio yn helpu i ailddosbarthu'r swm a delir mewn Trethi Busnes ar draws sectorau a rhanbarthau.
Mae gwerthoedd ardrethol yn seiliedig ar faint y byddai'n ei gostio i rentu eiddo am flwyddyn ar ddyddiad prisio penodol. Ar gyfer ailbrisio 2026, y dyddiad hwnnw yw 1 Ebrill 2024. Bydd gwerthoedd ardrethol newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026, ond mae camau y gallwch eu cymryd i baratoi.
Dod o hyd i'ch prisiad trethi busnes
Gallwch weld gwerth ardrethol eich eiddo ar hyn o bryd ac yn y dyfodol drwy:
- mewngofnodi i'ch cyfrif prisio trethi busnes — darganfod sut i gofrestru ar gyfer cyfrif
- defnyddio'r offeryn dod o hyd i brisiad trethi busnes
Gallwch hefyd:
- gwirio sut y cyfrifwyd eich gwerth ardrethol
- cymharu gwerth ardrethol eich eiddo ag eiddo tebyg
- cael amcangyfrif o faint y gallai eich bil trethi busnes fod o 1 Ebrill 2026
Sut mae eiddo'n cael eu prisio
Dysgwch sut mae'r VOA yn prisio eiddo ar gyfer trethi busnes.
Os credwch fod eich prisiad yn anghywir
Ni allwch herio eich prisiad yn y dyfodol tan 1 Ebrill 2026. Os ydych yn meddwl bod manylion yr eiddo a ddefnyddiwyd yn eich prisiad yn 2026 yn anghywir, gallwch ddweud wrth y VOA drwy godi achos gwirio yn erbyn eich prisiad yn 2023. Bydd unrhyw newidiadau a wneir i fanylion eich eiddo yn dilyn eich achos gwirio yn cael eu trosglwyddo i'ch prisiad yn 2026. Mae angen i chi ychwanegu eich eiddo at eich cyfrif prisio trethi busnes cyn y gallwch godi achos gwirio.
Ni fyddwch yn gallu gwneud newidiadau i'ch prisiad blaenorol unwaith y daw eich prisiad newydd i rym ar 1 Ebrill 2026. Mae gennych tan 31 Mawrth 2026 i godi achos gwirio yn erbyn eich prisiad 2023.
