Trethi Busnes: Beth yw ailbrisio?
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn diweddaru'r gwerthoedd ardrethol yn rheolaidd i bob busnes a phob eiddo annomestig arall (eiddo nad yw'n gartref preifat yn unig) yng Nghymru a Lloegr. Gelwir hyn yn 'ailbrisiad'.
Gwerthoedd ardrethol yw swm y rhent y gallai eiddo fod wedi'i roi ar osod amdano ar ddyddiad prisio penodol. Ar gyfer prisiad 2023, y dyddiad hwnnw oedd 1 Ebrill 2021.
Defnyddiwn y gwerthoedd ardrethol hyn i gyfrifo biliau ardrethi busnes.
Cynhaliwyd ailbrisiadau i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo, sy'n golygu bod biliau ardrethi busnes yn seiliedig ar wybodaeth ddiweddarach.
Bydd yr ailbrisiad nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023.
O 1 Ebrill 2023, dim ond Gwiriad yn erbyn rhestr ardrethu 2023 y bydd cwsmeriaid yn gallu ei wneud.
Gan y bydd rhestr ardrethu 2017 yn cael ei chau, dim ond dan rhai amgylchiadau cyfyngedig y gellir gwneud diwygiadau pellach iddi. Er enghraifft:
- Yn dilyn Gwiriadau heb eu cwblhau a gyflwynwyd cyn 1 Ebrill 2023 ac unrhyw heriau ac apeliadau dilynol
- Gall y VOA newid rhestr 2017 hyd at 31 Mawrth 2024. Mae hyn yn ein galluogi i glirio achosion/adroddiadau cyfredol ac yn eich galluogi i gyflwyno adroddiadau sydd ag elfen ôl-weithredol yn ymwneud â rhestr 2017. Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau i restr 2017, byddwn yn hysbysu'r cwsmer bod ganddynt yr hawl i wneud Gwiriad o fewn 6 mis i ddyddiad ein newid.
- Mae gan gwsmer yr hawl i herio rhestr 2017 ar sail penderfyniad tribiwnlys neu lys, ar yr amod bod Gwiriad wedi'i wneud erbyn 30 Medi 2023.
Ar ôl 31 Mawrth 2024 dim ond oherwydd her neu apêl y gellir newid rhestr 2017.
Cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Rydym yn gyfrifol am unrhyw beth sy'n ymwneud â'ch biliau ardrethi busnes. Mae'r VOA yn gyfrifol am brisio'ch eiddo. Felly, bydd angen i chi gysylltu â'r VOA ar gyfer pob ymholiad ynglŷn â'ch gwerth ardrethol.
Dod o hyd i'ch gwerth ardrethol
Rydych yn gallu gweld y gwerth ardrethol i ddod ar gyfer eich eiddo a chael amcangyfrif o'ch bil ardrethi busnes 2023/24, a beth y gallai hwnnw fod. Gallwch wneud hyn drwy Wasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes y VOA ar GOV.UK.
Angen newid manylion eich eiddo
Cyn 1 Ebrill 2023, defnyddiwch y Gwasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK i roi gwybod i'r VOA am newidiadau i fanylion eich eiddo (megis maint arwynebedd llawr a pharcio).
Ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd rhaid i chi gael cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod i'r VOA am newidiadau i fanylion eich eiddo.
Mae'n bosibl y bydd y VOA yn derbyn eich newidiadau ac yn diweddaru'r prisiad presennol a'r prisiad yn y dyfodol.
Rydych o'r farn bod y gwerth ardrethol yn rhy uchel
Cyn 1 Ebrill 2023, defnyddiwch y Gwasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK i roi gwybod i'r VOA os ydych o'r farn bod y gwerth ardrethol yn rhy uchel.
Ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd rhaid i chi gael cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod i'r VOA eich bod yn credu bod y gwerth ardrethol yn rhy uchel.
Mae'n rhaid i chi barhau i dalu'ch ardrethi busnes yn ôl yr arfer hyd nes bod y penderfyniad wedi'i wneud.
Sut effeithiodd coronafeirws (COVID-19) ar werth ardrethol y dyfodol
Mae'r VOA yn seilio'r rhan fwyaf o werthoedd ardrethol ar amcangyfrif o'r hyn y byddai'n costio i rentu eiddo am flwyddyn, gan ddechrau ar ddyddiad penodol.
Ar gyfer prisiad 2023, y dyddiad hwnnw oedd 1 Ebrill 2021. Digwyddodd hwn yn ystod y pandemig ac roedd yr wybodaeth a ddefnyddiodd y VOA am rent yn adlewyrchu hynny.