Trethi Busnes: Eiddo Masnachu Gwag
Cyflwyniad
Mae adran 45 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988) yn gosod atebolrwydd eiddo heb ei feddiannu mewn rhestr ardrethi lleol yn 100% o ardrethi eiddo a feddiannir. Mewn rhai amgylchiadau, gall yr atebolrwydd hwn fod yn llai.
Cyfnod y rhyddhad ar gyfer eiddo gwag
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008 (Rheoliadau 2008) yn darparu ar gyfer rhoi rhyddhad gorfodol yn y tri mis cyntaf y mae eiddo annomestig yn wag, neu'r chwe mis cyntaf os yw wedi'i ddosbarthu'n eiddo diwydiannol.
Mae'n darparu ymhellach fod yn rhaid bod yr eiddo gwag wedi'i feddiannu am gyfnod o fwy na 26 wythnos yn union cyn hynny er mwyn bod yn gymwys i gael y cyfnod rhyddhad cychwynnol hwn. Caiff unrhyw gyfnod o feddiannu sy'n llai na 26 wythnos ei ddiystyru.
Eiddo nad yw'n talu ardrethi eiddo gwag
Mae Rheoliadau 2008 hefyd yn diffinio'r mathau o eiddo nad ydynt yn talu ardrethi eiddo gwag (hyd yn oed ar ôl y cyfnod o dri mis pan na thelir ardrethi).
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Eiddo y gwaherddir ei feddiannu yn ôl y gyfraith
- Eiddo a gedwir yn wag oherwydd camau penodol a gymerir gan y Goron neu awdurdod lleol neu gyhoeddus
- Adeiladau rhestredig ac adeiladau sy'n destun hysbysiadau cadw adeilad
- Henebion cofrestredig
- Eiddo y mae gan ei berchennog ond hawl i'w feddiannu yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd personol person ymadawedig, datodwr neu ymddiriedolwr o dan weithred gymodi
- Eiddo y mae ei berchennog yn destun achos ansolfedd; ac
- Eiddo y mae ei werth ardrethol yn llai na £2,600.
Rhyddhad ar eiddo gwag ac elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol
Mae Deddf 1988 yn darparu rhyddhad elusennol llawn ar gyfer eiddo heb ei feddiannu pan fo'r talwr ardrethi yn elusen neu'n glwb chwaraeon amatur cymunedol a bod yr holl feini prawf cymhwysedd wedi'u bodloni.
Bydd rhyddhad yn cael ei roi pan fo'r talwr ardrethi yn elusen neu yn ymddiriedolwyr elusen a bod pob un o'r canlynol yn berthnasol:
- bod yr awdurdod lleol wedi'i fodloni bod eiddo heb ei feddiannu am reswm sy'n ymwneud â dibenion elusennol yr elusen;
- bod yr awdurdod lleol wedi'i fodloni y bydd yr eiddo, pan gaiff ei ddefnyddio nesaf, yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion elusennol yr elusen (neu at ddibenion yr elusen honno ac elusennau eraill);
- bod ymddiriedolwyr yr elusen wedi rhoi copi o gyfrifon diweddaraf yr elusen i'r awdurdod lleol; a
- phan fo'n ofynnol i'r elusen lunio adroddiad blynyddol, bod ymddiriedolwyr yr elusen wedi rhoi copi o adroddiad diweddaraf yr elusen i'r awdurdod lleol.
Bydd rhyddhad yn cael ei roi pan fo'r talwr ardrethi yn glwb chwaraeon amatur cymunedol (clwb cofrestredig at ddibenion adran 658 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010) a bod yr awdurdod lleol wedi'i fodloni y bydd yr eiddo, pan gaiff ei ddefnyddio nesaf, yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion y clwb hwnnw (neu at ddibenion y clwb hwnnw a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol eraill).
Sut i wneud cais
Drwy anfon e-bost at revenues@powys.gov.uk
Rhaid i chi wneud cais am ryddhad eiddo gwag cyn gynted ag y daw'r eiddo yn wag, gan y gallai fod angen i swyddog ymweld â'r eiddo i ddilysu'r hawl.
Efallai na fydd ceisiadau ôl-weithredol am ryddhad eiddo gwag yn cael eu hystyried oni bai eich bod yn gallu darparu tystiolaeth i brofi bod yr eiddo yn wag yn ystod y cyfnod o ryddhad rydych wedi gwneud cais amdano.
Lle nad oes cyfyngiad amser ar y rhyddhad eiddo gwag a ddyfernir, bydd yr Awdurdod Lleol yn cynnal adolygiadau ac archwiliadau i wirio hawl barhaus.
Mae'n bwysig bod unrhyw newid mewn amgylchiadau, gan gynnwys meddiannaeth yr eiddo, newid tenantiaeth neu berchnogaeth, yn cael ei adrodd o fewn 21 diwrnod.
Cysylltiadau
Y gwasanaeth treth y cyngor / trethi busnes a dyfarniadau ar gael i gymryd galwadau rhwng 9 am tan 1pm yn unig. Ein nod yw cael digon o staff ar gael yn ystod yr oriau hyn i helpu i wella'r amser y mae'n cymryd i ateb galwadau.Eich sylwadau am ein tudalennau