Trethi Busnes: Lluosydd Ardrethu
Rydym yn cyfrifo bil treth eiddo trwy luosi ei werth ardrethol â swm penodol. Gelwir y swm hwn yn 'luosydd ardrethu' (rating multiplier)
O 1 Ebrill 2026, cyflwynodd Llywodraeth Cymru luosyddion gwahaniaethol ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru. Mae'r lluosydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol fel a ganlyn (ceiniog yn y bunt):
Blwyddyn Ariannol 2026-27
- Lluosydd Safonol TBC
- Lluosydd Manwerthu* (gwerth ardrethol <51,000) TBC
- Lluosydd Uwch** (gwerth ardrethol >100,000) TBC
Blwyddyn Ariannol 2025-26
- Lluosydd Safonol 56.8p
Blwyddyn Ariannol 2024-25
- Lluosydd Safonol 56.2p
Blwyddyn Ariannol 2023-24
- Lluosydd Safonol 53.5p
*Disgrifiad o'r lluosydd manwerthu
Mae'r lluosydd manwerthu yn berthnasol i eiddo ar restr Ardrethi Busnes lleol:
(a) sydd â gwerth ardrethol o lai na £51,000, a
(b) a ddisgrifir ar y rhestr honno fel a ganlyn:
- ciosg ac eiddo,
- fferyllfa ac eiddo,
- swyddfa bost ac eiddo
- siop ac eiddo neu
- siop, swyddfa'r post ac eiddo.
**Disgrifiad o'r lluosydd uwch
Mae'r lluosydd uwch yn berthnasol i eiddo ar restr Ardrethi Busnes lleol:
(a) sydd â gwerth ardrethol o fwy na £100,000, a
(b) nad ydynt yn cael eu disgrifio ar y rhestr honno fel
- gorsaf ambiwlans ac eiddo, sefydliad ac eiddo amddiffyn ategol, mynwent ac eiddo, coleg ac eiddo, amlosgfa ac eiddo, gorsaf dân ac eiddo, canolfan iechyd ac eiddo, ysbyty ac eiddo, llys ac eiddo'r gyfraith, canolfan hamdden ac eiddo, llyfrgell ac eiddo, amgueddfa ac eiddo, gorsaf heddlu ac eiddo, carchar ac eiddo, ysgol ac eiddo, canolfan chwaraeon ac eiddo, meddygfa ac eiddo, pwll nofio ac eiddo, neu brifysgol ac eiddo.
Er enghraifft
Os mai £15,000 yw gwerth ardrethol eich busnes, byddech yn defnyddio lluosydd 2025-26 (56.8c) i amcangyfrif eich trethi busnes fel a ganlyn:
£15,000 (gwerth ardrethol) x £0.568c (lluosydd) - £8,520.
Ffigwr sylfaenol yw hwn cyn cael unrhyw ostyngiadau.