Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Apelio yn erbyn Penderfyniadau ar Dderbyniadau Ysgol

Dyrennir lle i'r rhan fwyaf o ddisgyblion Powys yn yr ysgol a nododd eu rhieni fel dewis cyntaf. Fodd bynnag, os nad yw'n bosibl cynnig lle yn yr ysgol honno, yna cynigir lle iddynt mewn ysgol arall. Yna, y rhieni fydd yn penderfynu naill ai i dderbyn y lle yn yr ysgol arall neu i apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod derbyn.

Apeliadau yn erbyn Penderfyniadau ar Dderbyniadau

Os byddwch yn apelio, byddwn yn gofyn i banel ystyried eich achos. Rhaid i'r panel gynnwys rhwng tri a phum aelod a benodwyd gan y cyngor neu gorff llywodraethu Ysgol a Gynorthwyir o'r categorïau canlynol:

  • Pobl sy'n gymwys i fod yn aelodau lleyg (pobl heb brofiad personol o reoli'r ysgol neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol, ac eithrio profiad fel llywodraethwr neu unrhyw swyddogaeth wirfoddol arall). 
  • Pobl sydd â phrofiad ym myd addysg; sy'n gyfarwydd â'r amodau addysgol yn ardal yr ALI (neu, yn achos ysgol a Gynorthwyir, yr ardal y mae'r ysgol wedi'i lleoli ynddi); neu sy'n rhieni plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol (ac eithrio'r ysgol lle gwneir yr apêl).

Rhaid i baneli apêl annibynnol ystyried pob achos yn unigol yn ôl ei rinweddau, ac ni allant gyfyngu eu hunain o flaen llaw i dderbyn unrhyw nifer arbennig o ddisgyblion. Dylai pwyllgorau apêl ystyried achosion mewn dau gam gwahanol:

Y Cam Ffeithiol, lle mae'r panel yn penderfynu fel mater o ffaith a oedd yna reswm cyfreithiol dros wrthod derbyn y plentyn; os nad oedd, rhaid derbyn y plentyn; os oedd, rhaid i'r pwyllgor symud ymlaen i'r cam nesaf

Y Cam Cydbwyso, lle mae'r panel yn defnyddio'i ddoethineb i bwyso a mesur yr anfanteision a fyddai'n deillio o dderbyn y plentyn o ran cyflwyno addysg effeithiol, a chryfder achos y rhieni, er mwyn gwneud penderfyniad sy'n ymrwymo'r awdurdod derbyniadau.

Bydd penderfyniad y panel apêl yn ymrwymo'r cyngor a'r llywodraethwyr ysgol.

Apeliadau sy'n ymwneud â chyfyngiadau maint dosbarthiadau babanod

Nid yw paneli apêl yn dilyn proses dau gam wrth ymdrin ag apeliadau derbyn o dan y ddeddfwriaeth statudol ynglyn â maint dosbarthiadau. Yn lle hynny, dim ond os oedd y penderfyniad i wrthod derbyn y plentyn wedi digwydd oherwydd nad oedd y trefniadau derbyn wedi'u gweithredu'n gywir, neu os oedd penderfyniad yr awdurdod derbyn yn groes i'r penderfyniad y byddai awdurdod derbyniadau rhesymol yn ei wneud yn yr achos penodol hwnnw.

Nifer y disgyblion i'w derbyn

Byddwn yn cynnig lleoedd yn ei ysgolion hyd at y nifer derbyn. Bydd lleoedd a ganiateir gan y panel apeliadau annibynnol, yn dilyn apêl lwyddiannus, yn ychwanegol at y rhif derbyn. Os yw'r broses apelio yn arwain at dderbyn disgyblion y tu hwnt i'r nifer derbyn, ni fydd lleoedd sy'n cael eu hildio, yn ddiweddarach, yn cael eu llenwi gan yr Awdurdod hyd nes bydd y niferoedd yn gostwng o dan y rhif derbyn.

Cyngor y Llywodraeth

Mae cyngor Llywodraeth Cymru yn nodi na all ysgolion wrthod derbyn disgyblion neu roi blaenoriaeth isel iddynt ar y sail y

a) gallant aflonyddu ar addysg disgyblion eraill neu
b) oherwydd cred na all yr ysgol ddarparu ar gyfer eu hanghenion addysgol arbennig.

Ni fydd y ffactorau hyn cael eu defnyddio i ddyrannu lleoedd.

 

Cysylltiadau ar gyfer ymholiadau ynghylch derbyniadau

  • Ebost: admissions@powys.gov.uk
  • Cyfeiriad: Tîm Derbyn a Chludiant, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG
  • Rhif ffôn: 01597 826477

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma