Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Meini prawf ar gyfer Derbyn Plant i'r Ysgol

Os yw nifer y disgyblion sy'n gwneud cais i fynychu ysgol yn uwch na nifer y lleoedd sydd ar gael yn yr ysgol, rydym yn defnyddio cyfres o feini prawf i ddyrannu lleoedd.

Mae gan y cyngor bolisi ardal dalgylch. Os ydych eisiau gweld pa ysgolion sydd ym mhob ardal ddalgylch: edrychwch ar Dod o hyd i ysgol ym Mhowys.

O ran disgyblion sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig, sy'n enwi ysgol benodol y dylai'r plentyn ei mynychu oherwydd mai'r ysgol benodol honno fyddai'n llwyddo orau i gwrdd â'i anghenion, dyrennir lle i'r plentyn yn yr ysgol honno yn awtomatig.

 

Meini prawf ar gyfer Derbyn Plant i'r Ysgol

Mae'r ALI wedi mabwysiadu'r meini prawf canlynol, yn nhrefn blaenoriaeth:

 

  1. Plant sy'n Derbyn Gofal neu Blant a fu'n Derbyn Gofal. (Bydd angen tystiolaeth y bu Plant yn Derbyn Gofal yn flaenorol i'w hanfon gyda'r ffurflen gais)
  2. Presenoldeb brawd neu chwaer h?n yn byw ar yr un aelwyd, yn mynychu'r ysgol os yw'r aelwyd o fewn dalgylch yr ysgol. Yn achos disgyblion ysgol gynradd, mae'n rhaid i'r brawd neu'r chwaer fod rhwng y Dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6 pan fydd y plentyn yn dechrau'r ysgol ac yn achos disgyblion ysgol uwchradd, mae'n rhaid i'r brawd neu'r chwaer fod rhwng Blwyddyn 7 a Blwyddyn 13. Fodd bynnag, os oes brawd neu chwaer sy'n mynychu'r chweched dosbarth yn unig yn yr ysgol, ni fydd hynny'n cael ei ystyried at ddibenion derbyn plentyn ieuengach.
  3. Lleoliad y cartref os yw o fewn ardal dalgylch presennol yr ysgol
  4. Unrhyw anghenion meddygol a chymdeithasol arbennig sy'n berthnasol i'r plentyn unigol, lle bo presenoldeb mewn ysgol benodol yn hanfodol. (Bydd angen anfon tystiolaeth gyda'r ffurflen gais)
  5. Presenoldeb brawd neu chwaer h?n yn yr ysgol os nad yw'r aelwyd yn y dalgylch gwreiddiol neu ddiwygiedig ar gyfer yr ysgol, a'r brawd neu chwaer h?n yn dal yn yr ysgol pan gaiff y plentyn ieuengach ei dderbyn. Fodd bynnag, os oes brawd neu chwaer sy'n mynychu'r chweched dosbarth yn unig yn yr ysgol, ni fydd hynny'n cael ei ystyried at ddibenion derbyn plentyn ieuengach.
  6. Lleoliad y cartref mewn perthynas â'r ysgol ac ysgolion eraill os yw y tu allan i ardal dalgylch presennol yr ysgol.

(Mae brawd neu chwaer yn cynnwys hanner brawd neu chwaer, llysfrawd neu chwaer, a phlant wedi'u mabwysiadu, plant sy'n Derbyn Gofal neu Blant fu'n Derbyn Gofal yn flaenorol sy'n byw ar yr un aelwyd)

O fewn pob maen prawf, bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y llwybr cerdded ymarferol byrraf, mwyaf diogel i'r ysgol, yn nhrefn pellter, hyd at nifer y lleoedd sydd ar gael, gan roi'r flaenoriaeth uchaf i'r disgybl sy'n byw agosaf at yr ysgol.

Caiff y pellter ei fesur o'r pwynt mynediad agosaf ar y gefnffordd gyhoeddus i *gartref arferol y disgybl sydd agosaf i'r ysgol ac wedi'i fesur i giât yr ysgol agosaf. Mae'r ALI yn defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol MapInfo i fesur pob pellter.

*fel arfer, y cartref arferol yw cartref y rhiant sy'n derbyn Budd-dâl Plant ar gyfer y plentyn. (Mae hyn hefyd yn wir pan fo plentyn yn byw gyda rhieni sy'n rhannu cyfrifoldeb am ran o'r wythnos)

 

 

Anghenion Meddygol a Chymdeithasol Arbennig

Dylech wneud yn siwr eich bod yn dweud wrthym ni am unrhyw anghenion meddygol neu gymdeithasol arbennig sydd gan eich plentyn pan fyddwch yn gwneud cais, os ydych am i ni eu hystyried os yw'r ysgol yn llawn.

Dylech gyflwyno tystiolaeth ategol gan weithiwr iechyd proffesiynol cofrestredig megis Meddyg neu Weithiwr Cymdeithasol, yn amlinellu'r rhesymau meddygol a chymdeithasol pam mai ysgol benodol fyddai'r mwyaf addas ar gyfer y plentyn ac yn rhoi manylion am unrhyw anawsterau a allai gael eu hachosi pe na allai'r plentyn fynychu'r ysgol.

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei thrafod gyda'r Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a swyddogion eraill y cyngor, a bydd yr holl ffeithiau yn cael  eu hystyried cyn dyrannu lleoedd. Ni fydd gwybodaeth hwyr yn cael ei chymryd i ystyriaeth.

 

 

Gefeilliaid, tripledi neu frodyr a chwiorydd yn yr un grwp blwyddyn

Os byddwch yn gwneud cais am leoedd i ddau neu ragor o blant a aned yn yr un flwyddyn ysgol, ac nad oes digon o leoedd iddynt i gyd, dyrennir y lle(oedd) yn nhrefn yr wyddor yn ôl enw blaen cyntaf y plentyn. Yn yr achosion hyn, bydd yr Awdurdod yn cynnal trafodaethau gyda'r ysgol i drafod opsiynau o ran maint dosbarthiadau ayb.

 

 

Torri dadl

Pe bai dau gais yn yr un categori yn cael eu hystyried am un lle sydd ar ôl, bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bwy bynnag sy'n byw agosaf at yr ysgol fel y mesurir gan y llwybr cerdded ymarferol byrraf, mwyaf diogel, gan ddefnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol MapInfo. Os bydd dau ymgeisydd yn byw yn yr un bloc o fflatiau, bydd y lle yn cael ei ddyrannu i'r ymgeisydd sy'n byw yn y fflat sydd â'r rhif isaf.

Rydym yn ceisio diwallu dewis rhieni, lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Fodd bynnag, rhaid cydnabod ei fod yn bosibl na fydd modd cydymffurfio â dewis y rhieni, os byddai derbyn plentyn yn golygu na fyddai'r ysgol yn cydymffurfio â'r ddyletswydd statudol sydd arni mewn perthynas â maint dosbarthiadau babanod.

Mae gennym restr aros i blant sydd ddim yn sicrhau lle yn yr ysgol o'u dewis.   Ni chaiff rhestrau aros eu cynnal y tu hwnt i 31 Awst yn y flwyddyn mynediad i'r ysgol. Ar ôl y dyddiad hwn, caiff yr holl enwau eu dileu o'r rhestr. Nid ydym yn cadw rhestrau aros ar gyfer grwpiau blwyddyn ar gyfer blynyddoedd heblaw'r flwyddyn derbyn arferol i'r ysgol.

 

 

Ceisiadau hwyr

Ni chaiff ceisiadau hwyr, a dderbynnir ar ôl y dyddiadau cau, eu hystyried, oni bai fod yna resymau eithriadol pam nad oedd yr ymgeisydd yn gallu gwneud cais ar amser.

Gall hwn fod pan fo'r teulu wedi symud i'r ALI rhwng y dyddiad cau a'r dyddiad cynnig (bydd angen tystiolaeth o'r newid cyfeiriad) neu os oedd rhesymau eithriadol eraill yn atal y teulu rhag gwneud cais ar amser.

Rhaid i geisiadau hwyr gael eu cynnwys yn ysgrifenedig gyda'r cais, gan gynnwys unrhyw ddogfennau/datganiadau atodol priodol.

Byddwn yn delio â'r holl geisiadau hwyr sydd ddim yn cael eu hystyried yn  eithriadau ar ôl y rheiny a wnaeth gais ar amser.

 

Contacts

For information on current educational provision for children and young people with additional learning needs please contact:

Feedback about a page here