Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld os oes angen i chi gyfrannu tuag at wasanaethau gofal trwy Asesiad Ariannol

Oherwydd y sefyllfa bresennol Covid-19, mae Incwm a Dyfarniadau Cyngor Sir Powys wedi sefydlu rhif ffôn penodol ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno siarad â chynghorydd sy'n gallu eu helpu gyda gostyngiadau trethi busnes a grantiau, gwybodaeth am fudd-daliadau, materion ariannol a chyngor ar ddyledion.  Bydd y rhif ffôn hwn ar gael o 9 - 1 bob dydd.
Y rhif yw: 01597 826345

Mae cymorth ariannol yn cael ei roi i fusnesau sy'n cael eu heffeithio gan gamau'r cyfnod atal byr.
Rydym yn aros am ganllawiau terfynol gan Lywodraeth Cymru o ran manylion y cynlluniau a fydd yn cael eu rhoi ar waith.  Lle bo modd, bydd taliadau'n cael eu gwneud yn awtomatig. Gofynnir i fusnesau Powys beidio â chysylltu â'r cyngor sir ar hyn o bryd ond i roi amser i ni weithio ar y trefniadau.  Bydd y wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bydd ar gael.

A oes rhaid i mi gael asesiad ariannol?

Os yw rhai o wasanaethau'r cyngor yn eich helpu chi, mae'n bosibl y bydd rhaid i chi dalu rhywbeth at y gost.  Rydym yn ystyried incwm ac unrhyw gyfalaf sydd ganddynt i weithio allan os oes rhaid i bobl dalu am yr help.

Allwn ni ddim codi mwy na £80 yr wythnos am becyn gofal.

Gallwch gael un ai asesiad modd ariannol i benderfynu lefel y cyfraniad neu ddewis talu pris y gwasanaethau (hyd at £80 yr wythnos).  Y peth gorau fyddai gofyn am asesiad modd ariannol.  Efallai y bydd y cyfraniad y gofynnwn amdano'n llai na'r pris uchaf - neu hyd yn oed am ddim.

Mae'r cyfraniad tuag at ofal preswyl a nyrsio'n cael eu cyfrifo'n wahanol.  Rydym yn gofyn am y cyfraniad lleiaf, ac mae rhai pobl yn talu'r pris llawn.

Sut ydyn ni'n gweithio allan y gost?

Mae swyddog asesu ariannol yn gallu dod i'ch gweld chi yn y cartref i'ch helpu chi lenwi'r ffurflenni asesu.  Byddwn yn edrych ar eich cynilion, incwm a buddsoddiadau, felly bydd rhaid gweld prawf o'r rhain.  Gallwch hefyd gael rhywun i daro golwg dros eich budd-daliadau i wneud yn siwr eich bod yn derbyn popeth sy'n ddyledus i chi.  Cewch glywed trwy lythyr beth fydd y gost wythnosol.

Mae'n polisi codi tal yn ystyried beth y gallwn ddisgwyl yn rhesymol i chi ei dalu.  Pan fyddwch yn talu eich costau, nid yw'r incwm sydd gennych yn weddill yn syrthio'n is na lefel y budd-dal prawf modd a 45% yn ychwanegol rydym yn ei anwybyddu.  Byddwn yn adolygu eich sefyllfa ariannol bob blwyddyn ac yn rhoi gwybod i chi trwy lythyr beth yw'r canlyniad.

Os y mynnwch chi, gallwch ofyn i aelod o'r teulu neu gynrychiolydd eich helpu chi a gweithio ar eich rhan yn y broses asesu.  Gallan nhw fod wrth law yn ystod yr ymweliad cartref.

Gofal preswyl / cartref nyrsio 

Os ydych chi angen gofal mewn cartref preswyl neu nyrsio mae Llywodraeth Cymru wedi gosod trefniadau asesu ariannol gwahanol y mae'n rhaid i ni eu dilyn.

Bydd rhaid i ni benderfynu os ydych chi'n gallu derbyn arian iechyd (gallai hyn olygu y bydd y Gwasanaeth Iechyd yn gyfrifol am eich anghenion, a bydd hyn am ddim).  Rhaid bod gennych anghenion sylweddol ac mae'r trefniadau cyflwyno cais yn gallu bod yn gymhleth iawn.  I gael rhagor o wybodaeth, holwch eich rheolwr gofal, pwy bynnag sy'n eich asesu, eich Meddyg neu Nyrs Cymunedol.

Cyswllt

  • Ebost: cymorth@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Cyfeiriad: CYMORTH (Gwasanaethau i Oedolion), Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau