Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth Ddefnyddiol - Taliadau Uniongyrchol

Beth yw Taliad Uniongyrchol?

Nod Taliadau Uniongyrchol yw cynnig hyblygrwydd wrth ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.  Mae Taliadau Uniongyrchol yn daliadau arian parod a roddir gan yr Awdurdod Lleol i bobl sydd angen cymorth fel y gallant drefnu a thalu am eu gofal eu hunain; yn hytrach na chael gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u darparu ar eu cyfer yn uniongyrchol. Mae Taliadau Uniongyrchol yn rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau a sut mae eu gofal yn cael ei ddarparu trwy hyrwyddo annibyniaeth, dewis a chynhwysiant.

Image of a man in a wheelchair with 2 women walking beside him

Pwy sy'n gallu derbyn Taliadau Uniongyrchol?

Er mwyn derbyn Taliadau Uniongyrchol, mae'n rhaid eich bod wedi cael asesiad Gwasanaethau Cymdeithasol a'ch bod yn gymwys i dderbyn gofal a/neu gefnogaeth gan wasanaethau gofal cymdeithasol. Gwneir hyn fel arfer gan weithiwr cymdeithasol. Os yw'r asesiad yn dangos eich bod yn gymwys i gael cymorth, bydd y gweithiwr cymdeithasol sy'n gwneud eich asesiad yn gofyn i chi a hoffech dderbyn Taliadau Uniongyrchol.

Os ydych chi eisoes yn derbyn gofal a/neu gymorth a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ac yr hoffech ystyried Taliad Uniongyrchol yn lle hynny, dylech siarad â'ch gweithiwr cymdeithasol.

Mae angen i Gyngor Sir Powys sicrhau eich bod chi'n gallu rheoli'r Taliadau Uniongyrchol, naill ai ar eich pen eich hun neu gyda'r cymorth sydd ar gael.

Ar gyfer beth y gallaf ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol?

Dylai sut rydych chi'n gwario'ch Taliadau Uniongyrchol adlewyrchu'r hyn y cytunwyd arno yn eich asesiad gofal cymdeithasol a'ch cynllun cymorth. Gallai hyn gynnwys:

  • Gofal personol a thasgau ymarferol yn y cartref
  • Mynychu apwyntiadau
  • Gwneud eich trefniadau eich hun yn hytrach na defnyddio gweithgareddau dydd y Gwasanaethau Cymdeithasol neu ofal seibiant
  • Cael cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol
  • Gofal a chymorth preswyl
  • Contractio gydag asiantaeth gofal gofrestredig neu ficro-fenter I ddiwallu eich anghenion asesedig
  • Hyfforddiant i'ch Cynorthwyydd Personol
  • Prynu offer / technoleg gynorthwyol

Cyflogi Cynorthwyydd Personol yn uniongyrchol i'ch cefnogi i fyw'n annibynnol yw un o'r ffyrdd mwyaf cyffredin y mae pobl yn dewis defnyddio Taliadau Uniongyrchol.

Ni allwch ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol am:

  • Wasanaethau, offer neu nwyddau nad ydynt yn eich asesiad gofal cymdeithasol a'ch cynllun cymorth
  • Gwasanaethau iechyd neu dai

A fydd yn rhaid i mi dalu am Daliadau Uniongyrchol?

Os ydych chi'n derbyn Taliadau Uniongyrchol, efallai y gofynnir i chi wneud cyfraniad tuag at gost eich gofal a'ch cymorth yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae hyn yr un fath ag ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol eraill a bydd yn cael ei gyfrifo yn unol â Pholisi Codi Tâl y Gwasanaethau Cymdeithasol. (PDF) [381KB]

Beth yw fy nghyfrifoldebau?

Byddwch yn gyfrifol am reoli a gweinyddu'r ffordd y bydd eich Taliadau Uniongyrchol yn cael eu gwario. Mae hyn yn golygu os byddwch yn cyflogi Cynorthwyydd Personol yn uniongyrchol, y byddwch yn cael eich ystyried fel ei gyflogwr. Os byddwch yn defnyddio eich arian ar gynorthwyydd personol hunangyflogedig, bydd yn eich anfonebu am waith a wnaethpwyd. 

Virtual wallet screenshot

Bydd yn rhaid i chi hefyd gadw cofnodion archwiliadwy o sut y bydd yr arian yn cael ei wario.

Bellach mae modd gwneud hyn gan ddefnyddio'r "Waled Rithwir" newydd. Am fwy o wybodaeth am y Waled Rithiwr, ewch i: https://www.myvirtualwallet.co.uk/

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae gan Gyngor Sir Powys gontract gyda gwasanaeth arbenigol, PeoplePlus, i'ch helpu a'ch cefnogi gyda sawl agwedd ar y broses Taliadau Uniongyrchol.

Bydd PeoplePlus yn gweithio gyda'ch gweithiwr cymdeithasol i sicrhau eich bod yn cael help gyda'ch Taliadau Uniongyrchol pryd bynnag y bydd ei angen arnoch.

Bydd PeoplePlus yn eich cefnogi a'ch cynorthwyo i reoli pob agwedd ar eich Taliadau Uniongyrchol gan gynnwys:

  • Deall beth y gellir gwario Taliadau Uniongyrchol arno a sut rydych chi'n rhoi gwybod sut mae'r arian yn cael ei wario
  • Cynllunio cefnogaeth a broceriaeth
  • Dewis asiantaeth gofal, micro-fenter neu ofal a chymorth preswyl
  • Gwasanaethau cyflogres i'r rhai sy'n dewis cyflogi Cynorthwywyr Personol
  • Gweithdai sgiliau i'ch galluogi i reoli cymaint o'ch Taliad Uniongyrchol â phosibl
  • Cyngor a chanllawiau parhaus ar faterion cyflogaeth
  • Cyfrifon wedi'u rheoli os oes arnoch angen cymorth ariannol lefel uwch

Mae PeoplePlus hefyd yn gweithio gyda phartneriaid sy'n gallu cynnig Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr sydd ei angen yn ôl y gyfraith, os byddwch yn dewis dod yn gyflogwr.

Os oes angen cymorth arnoch i ddod o hyd i Gynorthwyydd Personol, cysylltwch â CYMORTH/ASSIST - 0345 60 27050, E-bost - assist@powys.gov.uk

Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn gallu rhoi cyfarwyddyd ar wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd sydd eu hangen ar gyfer darparwyr weithwyr.  Bydd Cyngor Sir Powys yn gallu prosesu gwiriad DBS i chi.

Am ganllawiau Iechyd a Diogelu ar symud a chodi a chario, dilynwch Ganllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Faint fydd y taliadau?

Mae hyn yn dibynnu ar ba gymorth sydd ei angen arnoch. Pan fydd eich anghenion wedi'u hasesu, byddwn yn gwybod pa lefel o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Cytunir ar faint o arian y byddwch yn ei gael a bydd hyn yn cael ei gynnwys yn eich

Mae pob Taliad Uniongyrchol a wneir yn daliadau net o unrhyw gyfraniad gennych chi fel y pennir gan  Bolisi Codi Tâl y Gwasanaethau Cymdeithasol. (PDF) [381KB].

Hyfforddi

Gall eich Cynorthwyydd Personol (PA) ddefnyddio'r opsiynau hyfforddiant hyn yn ddi-dâl:

Mae Cyngor Sir Powys hefyd yn cynnig hyfforddiant pellach a allai fod o ddiddordeb i chi ac y gallech fod yn bresennol ynddo. Nodwch bod angen talu am rai o'r cyrsiau hyn.

Sut y gallaf gael gwybod mwy?

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth a'r cyngor sydd ar gael gan PeoplePlus, ewch i PeoplePlus MyLife - Tudalen Gartref PP Mylife

Mae gwybodaeth fanwl wedi'i chynnwys yn 'Taliadau uniongyrchol: canllaw' a gyhoeddir gan Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Os oes angen manylion pellach arnoch chi a chyngor am Daliadau Uniongyrchol ar ôl ymweld â'r dolenni gwybodaeth uchod, cysylltwch â'ch gweithiwr cymdeithasol neu gysylltu ag ASSIST ar 0345 602 7050 neu cymorth@powys.gov.uk