Gwybodaeth Ddefnyddiol - Taliadau Uniongyrchol
Beth yw Taliad Uniongyrchol?
Mae Taliadau Uniongyrchol yn arian a ddarperir yn uniongyrchol i chi gan eich awdurdod lleol drwy gyfrif rheoledig. Yn hytrach na bod yr awdurdod yn trefnu gwasanaethau gofal, gallwch ddewis a thalu am y cymorth sy'n gweddu orau i'ch anghenion.
Pam Dewis Taliadau Uniongyrchol?
- · Mwy o Reolaeth: Chi sy'n penderfynu pwy sy'n eich cefnogi.
- · Gofal Personol: Recriwtio rhywun sy'n deall eich anghenion a'r hyn sy'n well gennych.
Pwy sy'n gallu derbyn Taliadau Uniongyrchol?
Os yw Gweithiwr Cymdeithasol wedi asesu eich anghenion, a bod Cynllun Gofal wedi'i nodi, yna gallech fod yn gymwys i dderbyn Taliadau Uniongyrchol.
Os yw un o'r grwpiau isod yn addas i'ch sefyllfa, gallech fod yn gymwys:
- Rhiant neu unigolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl.
- Unigolyn anabl sydd â chyfrifoldebau rhiant.
- Unigolyn ifanc dros 16 oed sy'n anabl.
- Unigolyn rhwng 18 a 64 oed sy'n derbyn gofal yn y gwasanaeth cymunedol.
- Unigolyn dros 16 oed sy'n darparu gofal rheolaidd a sylweddol i oedolyn.
- Unigolyn o 65 oed sy'n derbyn gofal yn y gwasanaeth cymunedol.
- Unigolyn â salwch hirdymor.
Ar gyfer beth y gallaf ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol?
Mae anghenion pawb yn wahanol, ac nid oes rhestr gynhwysfawr; ond rhaid gwario'r arian ar gyflawni'r nodau a nodwyd yn eich Cynllun Gofal
Enghreifftiau o sut y gallwch ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol:
- Cyflogi Cynorthwy-ydd Personol (CP)
- Prynu gwasanaeth gan asiantaeth / neu gynorthwy-ydd personol hunangyflogedig
- Cymorth gydag anghenion gofal personol a nodwyd
- Seibiannau byr neu ofal dros dro
- Gofal seibiant
- Gweithgareddau cymunedol
- Cadw'n heini ac yn iach
- Eich cefnogi i ddod o hyd i waith
- Diddordebau a hobïau
- Prynu offer a allai eich cefnogi i fod yn fwy annibynnol
- Costau trafnidiaeth a theithio (os nodir hynny yn eich Cynllun Gofal)
- Gofal preswyl hirdymor
Yr hyn na allwch ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol ar ei gyfer
Enghreifftiau lle NA allwch ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol:
- Gofal Iechyd a ddylai gael ei ariannu gan y GIG, megis gofal nyrsio cofrestredig
- Talu am unrhyw beth na chytunir arno fel rhan o'r canlyniadau yn eich cynllun gofal a chymorth
- Unrhyw beth anghyfreithlon
- Hapchwarae
- Costau byw cyffredinol, e.e., biliau neu rent
- Dyledion
Faint fydd y taliadau?
Mae hyn yn dibynnu ar ba gymorth sydd ei angen arnoch. Pan fydd eich anghenion wedi'u hasesu, byddwn yn gwybod pa lefel o gymorth sydd ei angen arnoch. Yna cytunir ar faint o arian y byddwch yn ei gael a'i gynnwys yn eich cynllun personol.
Mae'r holl Daliadau Uniongyrchol yn cael eu gwneud yn net o unrhyw gyfraniad gennych fel y pennir gan Bolisi Codi Tâl y Gwasanaethau Cymdeithasol.Gallwch ofyn am gopi o Bolisi Codi Tâl y Gwasanaethau Cymdeithasol drwy gysylltu ag Adran Incwm a Dyfarniadau Cyngor Sir Powys.
A fydd yn rhaid i mi dalu am Daliadau Uniongyrchol?
Bydd eich amgylchiadau ariannol yn cael eu hasesu i weld a fydd yn rhaid i chi dalu tuag at eich anghenion gofal. Mae hyn yr un fath ag ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol eraill.
Mae gennych hawl i wrthod asesiad ariannol. Os yw hyn yn wir, byddwn yn gofyn i chi dalu'r cyfraniad mwyaf posibl.
Pa gymorth sydd ar gael?
Mae Cyngor Sir Powys wedi datblygu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAS) mewnol. Diben y gwasanaeth yw gweithio ochr yn ochr ag unigolion addas a phobl sy'n derbyn taliadau uniongyrchol i'w helpu i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder i reoli eu taliadau uniongyrchol a, lle y bo'n berthnasol, eu cyfrifoldebau cyflogwr yn effeithiol. Rydym am alluogi pobl i gael y canlyniadau gorau posibl o'u taliad uniongyrchol.
Gyda'r wybodaeth briodol a pherthnasol, bydd pobl sy'n derbyn taliad uniongyrchol yn gallu rheoli eu cyfrifoldebau heb lawer o gyfranogiad gan y gwasanaeth cymorth, efallai y bydd angen ychydig bach o gymorth neu gymorth am amser cyfyngedig ar rai pobl, a bydd angen cymorth a sicrwydd parhaus ar eraill. Dewis i unigolion yw hwn.
Byddwn yn sicrhau bod y cymorth a ddarperir gennym yn gymesur â'ch anghenion a'ch galluoedd, ond byddwn bob amser yn eich annog a'ch cefnogi i fod yn rheolwr eich taliadau fel y bo'n briodol.
Y Broses Taliadau Uniongyrchol
Sgyrsiau a Chytundeb
Os ydych yn teimlo bod angen cymorth arnoch gyda'ch gofal, gallwch ffonio Cymorth. Byddant yn cael sgwrs gyfeillgar gyda chi ac, os oes angen, yn cymryd y camau angenrheidiol i neilltuo gweithiwr cymdeithasol i chi.
CYMORTH - 0345 60 27050
E-bost - assist@powys.gov.uk
Bydd gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi i asesu eich anghenion i benderfynu ar yr oriau cymorth sydd eu hangen.
Yn ystod y sgwrs hon gallwch ddewis eich llwybr gofal, boed yn gyflogwr, yn defnyddio cynorthwy-ydd personol neu ficro-fenter hunangyflogedig, neu'n trefnu gofal drwy asiantaeth ac yn penderfynu pwy fydd yn rheoli'r taliad uniongyrchol; os yw'n rhywun arall, efallai y bydd angen gwiriad DBS arnynt.
Ar ôl ymweliad y Gweithiwr Cymdeithasol, bydd y gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAS) yn cysylltu â chi i lofnodi cytundeb gyda Chyngor Sir Powys ar gyfer derbyn a rheoli Taliadau Uniongyrchol (DP2a). Bydd hyn yn eich galluogi i ddechrau derbyn arian.
Bydd yr asesiad ariannol yn penderfynu a oes angen i chi gyfrannu tuag at eich costau gofal. Yn olaf, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn cyflwyno cais i'r Fforwm Ymarfer Gofal i gymeradwyo eich taliad uniongyrchol.
Sefydlu eich Waled Rithwir a Llwytho Eich Darparwr Gofal
Bydd PPL-Virtual Wallet yn cysylltu â chi drwy e-bost i sefydlu eich cyfrif. Mae'r wefan hon yn eich galluogi i weld eich balans Taliadau Uniongyrchol ac yn awdurdodi taliadau i'ch Cynorthwy-ydd Personol neu asiantaeth.
Os oes angen, byddwch yn cwblhau Mandad Debyd Uniongyrchol i sicrhau bod eich cyfraniadau'n cael eu rhoi yn eich Waled Rithwir.
Ar gyfer dod o hyd i ddarparwr gofal, mae gennych sawl opsiwn:
- Mae cyflogi Cynorthwy-ydd Personol cyflogedig yn cynnwys ymgymryd â chyfrifoldebau cyflogwyr
- Mae dewis Cynorthwy-ydd Personol neu ficro fenter hunangyflogedig yn symlach
- Dewis asiantaeth yw'r llwybr symlaf, sy'n darparu gofal drwy gydol y flwyddyn gyda thaliadau awtomatig
Mae'n bwysig cofio, os byddwch yn dewis Cynorthwy-ydd Personol hunangyflogedig, micro-fenter neu asiantaeth, y gallwch wynebu costau ychwanegol, y bydd angen i chi eu talu'n bersonol, os ydynt yn fwy na chyfradd Cyngor Sir Powys y cytunwyd arni. Cofiwch, nid yr opsiwn drutach yw'r un gorau i chi bob amser.
Bydd y gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAS) yn eich cynorthwyo drwy gydol y broses, gan ddarparu arweiniad a sicrhau bod gennych fynediad at adnoddau angenrheidiol megis canllawiau manwl, templedi contractau a mynediad i Wefan Cynorthwywyr Personol Powys.
Talu Eich Darparwr
Unwaith y bydd eich gofal a'ch cymorth yn dechrau, bydd angen i'ch darparwr gael mynediad i'r Waled Rithwir i ofyn am daliad. Rhaid i chi fewngofnodi a chymeradwyo'r ceisiadau hyn. Bydd y Waled Rithwir yn rhoi amserlen i chi o ddyddiadau pwysig ar gyfer cael mynediad i'r system i gymeradwyo taliadau.
Ni all y gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAS) gymeradwyo taliadau i chi, felly bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif. Gallwch ofyn am gymorth gan berson dibynadwy, a elwir yn enwebai. Bydd y gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAS) yn cynnig canllawiau ar gyfer y tri mis cyntaf, gan gynnwys eich taliadau cychwynnol.
Sut alla i gael gwybod mwy?
Os hoffech gyngor ac arweiniad pellach, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAS)
Tîm Cyflogres Waled Rithwir
ar gyfer unrhyw ddefnyddiwr o'r system sydd angen cymorth
Tîm Cyflogres Waled Rithwir
ar gyfer unrhyw gyflogwr neu gynorthwy-ydd personol
Ewch i www.myvirtualwallet.co.uk/Powys i weld fideo byr am Waled Rithwir a chael mwy o wybodaeth.