Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y Broses Adennill Rhent

Mae hwn yn ganllaw byr i drefn arferol y Cyngor ar gyfer mynd ar ôl rhent heb ei dalu sy'n ddyledus gan denantiaid presennol.

Cam 1

Llythyr Atgoffa 1af yn cael ei anfon atoch os ydych yn heb dalu mwy nag 1 wythnos.

Cam 2

Os na wneir taliad bydd y Cyngor yn ceisio cysylltu â chi i drafod eich ôl-ddyledion a chynnig cymorth.

Cam 3

2il Lythyr Atgoffa yn cael ei anfon os ydych wedi methu â thalu eich ôl-ddyledion neu wneud cytundeb boddhaol i glirio'r ôl-ddyledion.

Cam 4

Byddwn yn parhau i geisio cysylltu â chi trwy amrywiol ddulliau i drafod y rhesymau dros eich ôl-ddyledion ac unrhyw broblemau sydd gennych wrth dalu eich rhent. Yn ystod y cam hwn byddwn yn ceisio dod i gytundeb gyda chi i ad-dalu eich ôl-ddyledion er mwyn osgoi gweithredu pellach.

Cam 5

Os nad ydych wedi cymryd camau i glirio'ch ôl-ddyledion, bydd y Cyngor yn rhoi Hysbysiad Ceisio Meddiant i chi.Os na fyddwch yn clirio eich ôl-ddyledion neu'n lleihau eich ôl-ddyledion i foddhau'r Cyngor o fewn 1 mis o'r Hysbysiad, byddwn yn cyflwyno achos llys a allai arwain at golli eich cartref.

Cam 6

Byddwn yn parhau i geisio cysylltu â chi trwy amrywiol ddulliau i drafod y rhesymau dros eich ôl-ddyledion ac unrhyw broblemau sydd gennych wrth dalu eich rhent. Yn ystod y cam hwn byddwn yn ceisio dod i gytundeb gyda chi i ad-dalu eich ôl-ddyledion er mwyn osgoi gweithredu pellach.

Cam 7

Byddwn yn ysgrifennu atoch ar ôl rhoi'r Hysbysiad Ceisio Meddiant i'ch atgoffa o delerau'r Hysbysiad a pha gamau y mae angen ichi eu cymryd i osgoi achos llys.  

Cam 8

Os ar ôl 1 mis o roi'r Hysbysiad Ceisio Meddiant nad ydym wedi derbyn taliad boddhaol gennych, gallwn wneud cais i'r llys sirol am orchymyn meddiant.

Cam 9

Unwaith y byddwn yn gwybod dyddiad y gwrandawiad llys byddwn yn ysgrifennu atoch eto i'ch annog i wneud taliad boddhaol a byddwn yn trefnu i gwrdd â chi er mwyn trafod y gwrandawiad llys.

Cam 10

Unwaith y bydd eich achos yn cael ei glywed yn y llys byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau dyfarniad y llys (bydd y llys hefyd yn cysylltu â chi'n uniongyrchol) a nodi'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud i gydymffurfio â'r gorchymyn llys.

Gallai'r cam nesaf gynnwys eich troi allan os caniateir i'r Cyngor gael Gorchymyn Ildio Meddiant, neu os ydych yn torri amodau Gorchymyn Ildio Meddiant wedi'i ohirio.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'ch Swyddog Tai

 

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau