Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Diwygio eich Tenantiaeth

Ychwanegu cyd-ddeiliad contract

Fel deiliad contract gallwch ychwanegu person arall fel cyd-ddeiliad contract o dan eich contract meddiannaeth (tenantiaeth), ond mae'n rhaid i chi gael ein caniatâd ni i wneud hyn.

Mae'n debyg na fyddwn yn gwrthod caniatâd yn afresymol, ond gallwn roi caniatâd gydag amodau penodol.

Gellir ychwanegu cyd-ddeiliad contract newydd at y contract presennol drwy lofnodi cytundeb rhwng yr holl gyd-ddeiliaid contract a ninnau.

Pan wneir person yn gyd-ddeiliad contract, mae ganddo hawl i'r holl hawliau a bydd yn ddarostyngedig i holl rwymedigaethau'r contract o'r diwrnod y daw'n gyd-ddeiliad contract.

Os hoffech ychwanegu person fel cyd-ddeiliad contract, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen isod a'i dychwelyd drwy e-bost at: housing@powys.gov.uk neu drwy'r post at:

Sganio Tai
Cyngor Sir Powys
Spa Road East
Llandrindod
LD1 5LG

Cais i ychwanegu cyd-ddeiliad contract (PDF, 144 KB)

Dileu cyd-ddeiliad contract

Fel cyd-ddeiliad contract, gallwch dynnu'n ôl o'r contract drwy roi o leiaf un mis o rybudd ysgrifenedig i ni.

Caiff cyd-ddeiliad contract adael contract heb i'r contract ddod i ben i'r cyd-ddeiliad(iaid) contract sydd ar ôl.

Rydych chi'n atebol am rwymedigaethau'r contract hyd at ddyddiad diwedd y contract. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd gan y cyd-ddeiliad(iaid) contract sydd ar ôl hawl lawn i'r holl hawliau ac mae/maent yn gwbl atebol am rwymedigaethau'r contract.

Rhaid i chi roi copi o'r hysbysiad dileu ysgrifenedig i ddeiliad(iaid) y contract sydd ar ôl.

Cyn gynted ag y byddwn yn derbyn yr hysbysiad, rhaid i ni hefyd hysbysu deiliad(iaid) y contract sydd ar ôl ac anfon copi o'r hysbysiad dileu ato/atynt.

Os hoffech dynnu'n ôl o'ch contract, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen isod a'i dychwelyd drwy e-bost at: housing@powys.gov.uk neu drwy'r post at:

Sganio Tai
Cyngor Sir Powys
Spa Road East
Llandrindod
LD1 5LG

Tynnu hysbysiad cyd-ddeiliad contract yn ôl (PDF, 132 KB)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu