Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol - Tenantiaid y cyngor

Mae Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn achosi - neu'n debygol o aflonyddi, dychrynu neu beri gofid i unrhyw un sydd ddim yn byw gyda chi, neu'n ymddygiad sy'n achosi niwsans neu'n tarfu ar rywun ac yn effeithio ar allu'r landlord i reoli'r eiddo.

Sut ydyn ni'n delio ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?

Ry'n ni'n cymryd unrhyw gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol o ddifrif ac yn edrych mewn i'r mater yn sensitif.  Fe wnawn eich annog i esbonio'ch pryderon, gwrando ar unrhyw wybodaeth a'ch diweddaru am unrhyw ddatblygiadau. 

Ry'n ni'n gweithio gyda'r asiantaethau sy'n rhan o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys er mwyn atal, ymchwilio a chymryd camau yn erbyn y rhai sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol.

Beth ry'n ni'n ei wneud pan gawn glywed  am ymddygiad gwrthgymdeithasol:

  • Llythyron rhybuddio
  • Ymweliadau rhybuddio
  • Gwaharddebau
  • Helpu'r 'dioddefwr' neu'r sawl sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol (neu'r ddau)
  • Cyfryngu Cymunedol
  • Cyfeirio at asiantaethau gorfodi eraill (e.e. yr Heddlu, Iechyd yr Amgylchedd ayb)
  • Cytundebau Ymddygiad Derbyniol
  • Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Troi allan

Mae angen atebion gwahanol i broblemau gwahanol.  Ry'n ni'n llunio cynllun gweithredu i bob achos a byddwn yn gweithio gyda'r dioddefwr i gytuno ar gynllun gweithredu.  

Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Os yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnoch chi, gallwch gysylltu ag un o'n Swyddfeydd Tai a chael cyngor a chymorth.

Bydd manylion pob achos yn cael eu cadw ar gronfa ddata a byddwn yn defnyddio'r wybodaeth er mwyn monitro.

 

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau