Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys

Community Partnership

 
Click here to go to the 'Powys Community Safety Partnership' webpage
Ffurfiwyd Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn dilyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a'i gwnaeth yn ddyletswydd statudol i bob ardal awdurdod lleol ffurfio Partneriaeth Diogelwch Cymunedol.

 

 

 

Adolygiad o laddiad domestig
Mae Adolygiadau o Laddiad Domestig (ALD) yn ofynnol yn ôl y gyfraith, a'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) sy'n gyfrifol amdanynt. Pwrpas ALD yw ystyried yr amgylchiadau a arweiniodd at y lladdiad yn sgil trais domestig fel bod cyrff cyhoeddus a sefydliadau'r sector cymunedol a gwirfoddol yn gallu gweld ble gallai'r ymatebion i'r sefyllfa fod wedi bod yn well.
Darllen mwy yma

 

Mae Adran 17 Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yn ei gwneud yn ddyletswydd  ar yr awdurdodau cyfrifol i:

'Heb ragfarn yn erbyn unrhyw ymrwymiad arall a orfodir arno ... ymarfer ei swyddogaethau gan ystyried ... yr angen i wneud popeth o fewn ei allu rhesymol i atal trosedd ac anhrefn yn ei ardal.'

Mae ystod amrywiol o swyddogaethau a gwasanaethau statudol yr awdurdod lleol yn destun Adran 17, e.e.:

  • Trosedd ac Anhrefn
  • Diogelwch ar y Ffordd
  • Camddefnyddio Sylweddau
  • Lleihau Aildroseddu

 

Ffrydiau Gwaith Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Cymru:

CONTEST - lleihau'r risg i'r DU a'i buddiannau dramor rhag terfysgaeth er mwyn i bobl fyw eu bywydau yn rhydd ac yn hyderus.

Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol - mae'n costio o leiaf £24 biliwn y flwyddyn i'r Deyrnas Unedig. Lansiwyd Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol y Llywodraeth fis Hydref 2013. 

Rheoli Integredig Troseddwyr (IOM) yw un o'r dulliau cyffredinol sy'n anelu at reoli grwpiau blaenoriaeth o droseddwyr risg uchel.

Cydlyniant Cymunedol - Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r Cynllun Cyflenwi Cydlyniant Cymunedol Cenedlaethol 2014-16 yn ystod Mehefin 2014, i barhau i gryfhau, prif-ffrydio a chynnal dulliau lleol a rhanbarthol o sicrhau cydlyniant cymunedol.

 

Awdurdodau Cyfrifol

Chwech awdurdod cyfrifol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys: