Delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol - Tenantiaid y cyngor
Mae Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn achosi - neu'n debygol o aflonyddi, dychrynu neu beri gofid i unrhyw un sydd ddim yn byw gyda chi, neu'n ymddygiad sy'n achosi niwsans neu'n tarfu ar rywun ac yn effeithio ar allu'r landlord i reoli'r eiddo.
Sut ydyn ni'n delio ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?
Ry'n ni'n cymryd unrhyw gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol o ddifrif ac yn edrych mewn i'r mater yn sensitif. Fe wnawn eich annog i esbonio'ch pryderon, gwrando ar unrhyw wybodaeth a'ch diweddaru am unrhyw ddatblygiadau.
Ry'n ni'n gweithio gyda'r asiantaethau sy'n rhan o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys er mwyn atal, ymchwilio a chymryd camau yn erbyn y rhai sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Beth ry'n ni'n ei wneud pan gawn glywed am ymddygiad gwrthgymdeithasol:
- Llythyron rhybuddio
- Ymweliadau rhybuddio
- Gwaharddebau
- Helpu'r 'dioddefwr' neu'r sawl sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol (neu'r ddau)
- Cyfryngu Cymunedol
- Cyfeirio at asiantaethau gorfodi eraill (e.e. yr Heddlu, Iechyd yr Amgylchedd ayb)
- Cytundebau Ymddygiad Derbyniol
- Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
- Troi allan
Mae angen atebion gwahanol i broblemau gwahanol. Ry'n ni'n llunio cynllun gweithredu i bob achos a byddwn yn gweithio gyda'r dioddefwr i gytuno ar gynllun gweithredu.
Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol
Os yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnoch chi, gallwch gysylltu ag un o'n Swyddfeydd Tai a chael cyngor a chymorth.
Bydd manylion pob achos yn cael eu cadw ar gronfa ddata a byddwn yn defnyddio'r wybodaeth er mwyn monitro.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau