Egwyddorion
Mae tenantiaid yn gyfrifol am ymddygiad pawb ar yr aelwyd, gan gynnwys unrhyw ymwelwyr â'r eiddo neu'r ardal gymunol.
Bydd pobl sy'n achosi difrod i unrhyw eiddo ym mherchnogaeth neu dan reolaeth y Gwasanaeth Tai yn gyfrifol am eu gweithredoedd ac am unrhyw gostau. Dyma 'r taliadau fydd yn cael eu codi arnynt.
Y swyddog sy'n gyfrifol am reoli'r taliadau a godir fydd yn penderfynu a yw am godi tâl ai peidio yn y pen draw. O ran gwaith trwsio, y swyddog cynnal a chadw fydd y swyddog hwnnw fel arfer. Ni fyddwn yn mynd ar drywydd y tâl sy'n cael ei godi oni bai fod y swyddog yn credu bod hynny'n gost-effeithiol.
Bydd anfoneb yn cael ei hanfon, gyda'r llythyr sy'n esbonio'r beth yw'r taliadau a phwy y dylech gysylltu â nhw os ydych am holi ynghylch y tâl.
Gall anfonebau gyfeirio at fwy nag un math o daliad. Er mwyn bod yn effeithlon, mae'n bosibl y bydd mwy nag un taliad yn ymddangos ar un anfoneb, neu'n cael ei gasglu trwy eich cyfrif rhent.
Y Gwasanaethau Rhent fydd yn gyfrifol am weinyddu'r polisi codi tâl yma.
Os nad oes modd sicrhau cytundeb ar gyfer talu'r swm, yna mae modd adfer y taliad trwy'r llysoedd neu drwy unrhyw fodd cyfreithlon arall y mae'r Cyngor yn ei ystyried yn briodol, er enghraifft asiantaethau adfer taliadau.
Os nad ydych yn fodlon
Os ydych yn anfodlon â'r penderfyniad i godi tâl, yna gallwch anfon apêl at y swyddog sy'n gyfrifol cyn pen 14 diwrnod o dderbyn yr anfoneb. Wedi i chi wneud apêl, os ydych yn dal i fod yn anfodlon gyda'r penderfyniad, dylech gwyno trwy'r Weithdrefn Gwynion.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau