Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru

Os yw'n anodd gwresogi eich cartref, ffoniwch Nyth
Image of the Nest logo

 

Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yma i'ch helpu i gadw'n gynnes ac i arbed arian ar eich biliau ynni.

Mae Nyth yn agored i ddeiliad tai yng Nghymru ac yn rhoi cyngor ar arbed ynni, rheoli arian, tariffau tanwydd, a hawl i fudd-daliadau.

Fe allech hawlio gwelliannau i effeithlonrwydd ynni eich cartref a hynny am ddim os ydych chi'n ateb yr holl amodau isod:

  • rydych yn berchen neu'n rhentu eich cartref yn breifat (nid gan awdurdod lleol neu gymdeithas tai)
  • mae eich cartref yn aneffeithlon o ran ynni ac yn ddrud i'w gynhesu
  • Rydych chi neu rywun arall ar yr aelwyd yn derbyn budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd NEU â chyflwr anadlu cronig, cyflwr cylchrediad y gwaed neu gyflwr iechyd meddwl gydag incwm o dan y trothwyon penodol.

Gall y gwelliannau i effeithlonrwydd ynni gynnwys boeler gwres canolog newydd neu inswleiddiad.

Os yw'n anodd gwresogi eich cartref, cysylltwch â Nyth ar Rhadffôn 0808 808 2244 i gael cyngor am ddim ac i weld a ydych yn gymwys i gael gwelliannau i'ch cartref o ran arbed ynni, neu ewch i www.nestwales.org.uk/cy/hafan i gael rhagor o wybodaeth.