Safleoedd Carafannau Preswyl / Cartrefi Symudol
Bydd angen i berchnogion safleoedd sy'n bodoli eisoes wneud cais am Drwydded newydd gan na fydd y drwydded sydd ganddynt ar hyn o bryd ar gyfer carafanau preswyl/cartrefi symudol dan Ddeddf Datblygu Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygiad 1960 bellach yn ddilys ar ôl 1 Ebrill 2015. Fodd bynnag yn achos safleoedd cymysg, bydd yr hen drwydded yn parhau i fod yn berthnasol ar gyfer elfennau carafanau gwyliau a charafanau teithiol y safleoedd hynny.
Bydd angen bod â chaniatâd cynllunio ar gyfer carfanau preswyl yn gyntaf, a bydd angen i berchennog neu reolwyr y safle fod yn berson 'addas a phriodol' i ddal trwydded o'r fath.
Mae rheolau newydd mewn grym i breswylwyr sy'n gwerthu neu'n prynu cartref symudol preswyl.
Lawrlwythwch y polisi ffioedd (PDF) [175KB]
Mae Canllawiau ychwanegol ar Gartrefi Symudol i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru
Amodau trwyddedu
Rydym yn atodi amodau at drwyddedau, ac os na chedwir at yr amodau safle, gallwn gymryd camau gweithredu, gan gynnwys cyflwyno Hysbysiadau Cydymffurfio neu Hysbysiadau Cosb Benodedig.
Nod amodau'r Drwydded Safle yw diogelu gwarchod iechyd, diogelwch a lles preswylwyr y carafanau, ac mae'r amodau'n cwmpasu pethau fel draenio, pellter rhwng carafanau a'i gilydd ac yn y blaen.
Bydd Patrwm Safonau Safleoedd Carafanau yng Nghymru 2008 yn cael ei atodi at bob Safle Cartrefi Symudol ym Mhowys
Rheolau Safle
Nid yw'n orfodol i safle gael rheolau, ond os oes gan safle reolau, yna bydd angen adolygu'r rhain cyn 1 Hydref 2015 a byddant ar gael i'w gweld ar lein ar ôl y dyddiad yma. Mae rhagor o wybodaeth am reolau safle a'r broses adolygu i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
Sut i wneud cais
Dylech gyflwyno'ch cais trwy lythyr, gan roi manylion y tir dan sylw, ac unrhyw wybodaeth arall y credwch sy'n berthnasol.
Gallwch ddefnyddio'r dolenni ar ochr dde'r dudalen hon i wneud eich cais.
Os oes problem, byddwn yn cysylltu â chi. Os nad ydych wedi clywed oddi wrthym cyn pen 42 diwrnod o gyflwyno'ch cais, gallwch dybio i'ch cais for yn llwyddiannus.
Byddwn yn Codir tâl am y drwydded yma.
Cwynion ac apeliadau
Os ydych yn anfodlon ag unrhyw un o'n penderfyniadau, holwch ni yn y lle cyntaf.
Os gwrthodir caniatâd i chi newid amod, gallwch gyflwyno apêl i Dribiwnlys Eiddo Preswyl. Mae'n rhaid cyflwyno apêl cyn pen 28 diwrnod o gael eich hysbysbu am y gwrthodiad.
Os ydych am gyflwyno apêl yn erbyn amod sydd wedi'i atodi i'r drwydded, gallwch gyflwyno apêl i Dribiwnlys Eiddo Preswyl. Rhaid cyflwyno'r apêl cyn pen 28 diwrnod o gyflwyno'r drwydded.
Gallwn newid amodau ar unrhyw adeg, ond rhaid i ni roi cyfle i ddeiliaid trwydded gyflwyno gwrthwynebiad i'r newidiadau arfaethedig. Os ydych yn anghytuno â'r newidiadau, gallwch gyflwyno apêl i Dribiwnlys Eiddo Preswyl. Rhaid cyflwyno'r apêl cyn pen 28 diwrnod o'r hysbysiad ysgrifenedig ynglyn â'r newid.
Ar gyfer anghydfod sy'n ymwneud â:
Chytundebau Cartrefi Symudol, Rheolau Safleoedd a Ffioedd Lle, mae angen cysylltu â Thribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru.
Cwynion defnyddwyr
Rydym yn ymateb i gwynion am garafanau a safleoedd carafanau anfoddhaol ac yn cynnal archwiliadau rheolaidd o safleoedd carafanau i sicrhau eu bod yn cadw at amodau eu trwydded safle.
Os oes gennych gwyno am safle carafanau, yna cysylltwch â'ch swyddfa leol.
Ffurflenni Cais
Gallwch hefyd gael ffurflen gais gennym ni trwy ddefnyddio'r manylion cysylltu ar y dudalen yma. Llenwch y ffurflen, a'i dychwelyd, ynghyd â'r ffi, i'r swyddfa drwyddedu ardal.
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma