Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Eisteddleoedd rheoledig

Hyd yn oed os nad oes angen tystysgrif ddiogelwch ar faes chwaraeon, bydd angen tystysgrif ddiogelwch arnoch o hyd ar gyfer unrhyw eisteddle dan do sy'n dal 500 neu fwy o wylwyr.

Gall tystysgrif ddiogelwch fod naill ai'n:

  • dystysgrif ddiogelwch gyffredinol sy'n cynnwys defnyddio'r eisteddle ar gyfer gwylio gweithgaredd/gweithgareddau dros gyfnod amhenodol sy'n cychwyn ar achlysur/achlysuron penodol.
  • tystysgrif ddiogelwch arbennig sy'n cynnwys defnyddio'r eisteddle ar gyfer gwylio gweithgaredd/gweithgareddau penodol ar ryw achlysur/achlysuron penodol.

Gall un dystysgrif fod ar gyfer mwy nag un eisteddle. Rhaid i chi ddilyn unrhyw amodau sy'n gysylltiedig â thystysgrif.

Sut i wneud cais

Rhaid i geisiadau am dystysgrifau diogelwch cyffredinol gael eu gwneud gan yr unigolyn sy'n rheoli'r maes chwaraeon.

Rhaid i geisiadau am dystysgrifau diogelwch arbennig gael eu gwneud gan yr unigolyn sy'n gyfrifol am y gweithgaredd a fydd yn cael ei wylio o'r eisteddle.

Bydd angen i chi anfon yr holl wybodaeth a'r cynlluniau yr ydym yn gofyn amdanynt erbyn y dyddiad cau. Os byddwch yn colli'r dyddiad cau, byddwn yn tybio eich bod wedi tynnu eich cais yn ôl.

Rhaid i ni anfon copi o'r holl geisiadau am dystysgrifau diogelwch at brif swyddog heddlu'r ardal, yr awdurdod tân ac achub a'r awdurdod adeiladu.   Rhaid gofyn i bob un o'r cyrff hyn wneud sylwadau am yr amodau a'r telerau sydd i'w cynnwys mewn tystysgrif. Byddwn hefyd yn gofyn iddynt am unrhyw geisiadau i ddiwygio, ailgyflwyno neu drosglwyddo tystysgrif.

Apeliadau a chwynion

Os ydych yn anhapus am ein penderfyniad, cysylltwch â ni gyntaf.

Os byddwn yn cyflwyno rhybudd sy'n pennu fod eisteddle chwaraeon yn eisteddle chwaraeon rheoledig, gallwch apelio i'r Llys Ynadon lleol.

Os oes gennych bryderon am sicrhau fod amodau a thelerau'r dystysgrif ddiogelwch yn cael eu dilyn, gallwch apelio i lys yr ynadon yn erbyn unrhyw amod sy'n gysylltiedig â'r dystysgrif neu unrhyw beth sydd heb gael ei gynnwys. Gallwch apelio hefyd os byddwn yn gwrthod diwygio neu gyflwyno tystysgrif ddiogelwch newydd yn lle hen dystysgrif.

Os na fyddwch wedi clywed oddi wrthym o fewn 14 diwrnod calendr o gyflwyno eich cais, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.

 

 

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Os oes gennych gwyn am ddiogelwch eisteddle rheoledig mewn maes chwaraeon, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.

 

 

Ffurflenni cais

Gallwch wneud cais ar-lein trwy ddefnyddio'r ddolen isod. Mae'r ddolen yn mynd â chi i wefan arall y llywodraeth.

Gwneud cais i ardystio eisteddle rheoledig mewn maes chwaraeon

Newid tystysgrif ddiogelwch ar gyfer eisteddle rheoledig

Gallwch gael ffurflenni cais hefyd trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon. Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd i'r swyddfa drwyddedu ardal.

Ni fyddwn yn codi tâl am y tystysgrifau hyn.

Contacts

  • Email: public.protection@powys.gov.uk
  • Phone: 01597 827467
  • Address: Environmental Health, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng / Welshpool, Powys, SY21 7PH

Feedback about a page here