Biniau heb eu casglu
Coronafeirws (COVID-19)
Ydych chi'n siŵr o'ch diwrnod casglu?
Gallwch chi weld pryd rydym yn casglu'ch biniau yma
Cyn i chi roi gwybod am finiau heb eu casglu cofiwch y gallai'r criwiau casglu fod wrthi'n gweithio tan ddiwedd y diwrnod.
Cofiwch sicrhau'r canlynol:
- Bod eich blychau allan erbyn 7.30am
- Bod eich blychau yn y lle iawn
- Eich bod chi wedi cau'r caead ac nad oedd gwastraff ychwanegol nesaf i'ch bin Bod y gwastraff iawn yn y blychau iawn
Ni fydd ein criwiau'n dod yn eu holau i gasglu blychau/biniau/bagiau a roddwyd allan yn hwyr. Yn yr achos yma dylech chi fynd â'r blychau'n ôl i'r tŷ tan y diwrnod casglu nesaf. Neu gallwch chi fynd â gwastraff i'w ailgylchu i ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref neu safle ailgylchu cymunedol.
Newidiadau i gasgliadau
Gall tywydd garw effeithio ar gasgliad neu efallai bod cerbyd wedi torri i lawr neu fod gwaith ar y ffordd. Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am hyn lle bo modd..
Os ydych yn dal yn sicr ein bod wedi colli'ch biniau gallwch chi roi gwybod i ni yma trwy ddefnyddio'r botwm isod.