Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant (Lefel 3)

Budd i'r Sefydliad

Mae'r Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant (Lefel 3) yn gyflwyniad i addysgu / hyfforddi a fydd yn rhoi dealltwriaeth o'r rolau, y cyfrifoldebau a'r perthnasau mewn addysg a hyfforddiant, sut i gynllunio a chyflwyno sesiynau addysgu cynhwysol a sut i asesu a rhoi adborth adeiladol. Mae'r cwrs hwn yn helpu unigolion sydd heb gyflwyno hyfforddiant o'r blaen i ddatblygu dealltwriaeth o sut i gyflwyno rhaglenni hyfforddiant cynhwysol sy'n ennyn diddordeb dysgwyr ac yn diwallu eu hanghenion. 

Pwy Ddylai Fynychu? 

Mae'r cymhwyster hwn yn disodli'r cymhwyster PTLLS ac yn rhoi cyflwyniad i unigolion i addysgu. Bellach mae disgwyl i unrhyw un sy'n cynnal hyfforddiant o fewn eu hamgylchedd gwaith fod wedi cyflawni, fel safon ofynnol, Lefel 3 y Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant.

Amcanion Dysgu

  • Datblygu dealltwriaeth o rôl a chyfrifoldebau addysgu
  • Dysgu sut i gynnal amgylchedd dysgu diogel a chefnogol
  • Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso addysgu a dysgu cynhwysol
  • Datblygu dealltwriaeth o'r mathau o asesiadau a'r dulliau asesu a ddefnyddir mewn addysg a hyfforddiant
  • Dysgu sut i gynnwys dysgwyr ac eraill yn y broses asesu
  • Deall y gofynion ar gyfer cadw cofnodion

Cynnwys y Cwrs

  • Deall rolau, cyfrifoldebau a pherthnasau mewn addysg a hyfforddiant
  • Deall a defnyddio ymagweddau cynhwysol at addysgu a dysgu mewn addysg a hyfforddiant
  • Deall asesu mewn addysg a hyfforddiant 

Hyd 

Dysgu Rhithiol

 

Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs

Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk

 

Gwybodaeth Arall 

Mae'n ofynnol i gyfranogwyr gymryd rhan mewn microaddysgu. Mae'r cwrs yn gofyn lefel uchel o ymroddiad a bydd disgwyl i ddysgwyr wneud gweithgareddau gwaith cartref, a dylent fod â llythrennedd cyfrifiadurol a lefel dda o Saesneg. 

Trefnu Lle

Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn.  Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma​​​​​​​

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu