Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant (Lefel 3)
Budd i'r Sefydliad
Mae'r Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant (Lefel 3) yn gyflwyniad i addysgu / hyfforddi a fydd yn rhoi dealltwriaeth o'r rolau, y cyfrifoldebau a'r perthnasau mewn addysg a hyfforddiant, sut i gynllunio a chyflwyno sesiynau addysgu cynhwysol a sut i asesu a rhoi adborth adeiladol. Mae'r cwrs hwn yn helpu unigolion sydd heb gyflwyno hyfforddiant o'r blaen i ddatblygu dealltwriaeth o sut i gyflwyno rhaglenni hyfforddiant cynhwysol sy'n ennyn diddordeb dysgwyr ac yn diwallu eu hanghenion.
Pwy Ddylai Fynychu?
Mae'r cymhwyster hwn yn disodli'r cymhwyster PTLLS ac yn rhoi cyflwyniad i unigolion i addysgu. Bellach mae disgwyl i unrhyw un sy'n cynnal hyfforddiant o fewn eu hamgylchedd gwaith fod wedi cyflawni, fel safon ofynnol, Lefel 3 y Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant.
Amcanion Dysgu
- Datblygu dealltwriaeth o rôl a chyfrifoldebau addysgu
- Dysgu sut i gynnal amgylchedd dysgu diogel a chefnogol
- Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso addysgu a dysgu cynhwysol
- Datblygu dealltwriaeth o'r mathau o asesiadau a'r dulliau asesu a ddefnyddir mewn addysg a hyfforddiant
- Dysgu sut i gynnwys dysgwyr ac eraill yn y broses asesu
- Deall y gofynion ar gyfer cadw cofnodion
Cynnwys y Cwrs
- Deall rolau, cyfrifoldebau a pherthnasau mewn addysg a hyfforddiant
- Deall a defnyddio ymagweddau cynhwysol at addysgu a dysgu mewn addysg a hyfforddiant
- Deall asesu mewn addysg a hyfforddiant
Hyd
5 diwrnod (Amser: 09:30 i 16:30)
Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs
Pris £450
Dyddiadau sydd ar gael: | Lleoliad |
---|---|
29/07/2019 30/07/2019 07/08/2019 08/08/2019 19/08/2019 | Ystafell Hyfforddi - Y Caban, Neuadd y Sir, Llandrindod |
23/10/2019 24/10/2019 29/10/2019 30/10/2019 12/11/2019 | Ystafell Hyfforddi - Y Caban, Neuadd y Sir, Llandrindod |
Gwybodaeth Arall
Mae'n ofynnol i gyfranogwyr gymryd rhan mewn microaddysgu. Mae'r cwrs yn gofyn lefel uchel o ymroddiad a bydd disgwyl i ddysgwyr wneud gweithgareddau gwaith cartref, a dylent fod â llythrennedd cyfrifiadurol a lefel dda o Saesneg.
Trefnu Lle
Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn. Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma