Asesu Risg (Egwyddorion) Tystysgrif Lefel 2
Budd i'r Sefydliad
Erbyn diwedd y cwrs Cyngor Diogelwch Prydain Lefel 2 hwn bydd y cyfranogwr yn gallu gwneud asesiadau risg yn hyderus. Bydd hyn yn eich helpu i ddiogelu'ch staff a'ch busnes, yn ogystal â chydymffurfio â'r gyfraith.
Pwy Ddylai Fynychu?
Unrhyw un y mae'n ofynnol iddo gynnal asesiadau risg yn y gweithle. Mae'r Dyfarniad mewn Asesu Risg yn dysgu ymgeiswyr sut i wneud asesiad risg yn unol â chyngor yr Awdurdod Gweithredol ar Iechyd a Diogelwch: Pum Cam i Asesu Risg. Mae hyn yn arwain at gymhwyster Lefel 2.
Amcanion Dysgu
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster, bydd dysgwyr yn:
- Deall pwysigrwydd asesiadau risg
- Deall egwyddorion rheoli risgiau
- Deall sut i gynnal asesiad risg.
Cynnwys y CwrsMae'r cymhwyster yn cwmpasu'r pynciau canlynol:
- Y rhesymau dros gynnal asesiadau risg
- Y brif ddeddfwriaeth mewn perthynas ag asesu risg
- Canfod peryglon i iechyd a diogelwch
- Canfod pwy allai gael ei niweidio a sut
- Cyfrifo sgôr risg briodol
- Canfod a gwerthuso'r mesurau rheoli presennol
- Rhoi'r hierarchaeth o fesurau rheoli ar waith
- Cofnodi canfyddiadau asesiad risg
- Gwneud argymhellion ar sail y canfyddiadau
- Adolygu a diwygio asesiad risg
Hyd
1 diwrnod (Amser: 09:15 i 16:30)
Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs
Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk
Gwybodaeth Arall
Bydd yr ymgeiswyr yn cael mynediad i system cymwysterau ar-lein Cyngor Diogelwch Prydain ble caiff y dasg asesu ei chyflawni. Mae'r asesiad ar-lein yn ymwneud yn uniongyrchol â'ch gweithle ac yn profi sut caiff gwybodaeth a dealltwriaeth eu cymhwyso mewn cyd-destun ymarferol.
Trefnu Lle
Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn. Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma