Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Asesu Risg (Egwyddorion) Tystysgrif Lefel 2

Budd i'r Sefydliad

Erbyn diwedd y cwrs Cyngor Diogelwch Prydain Lefel 2 hwn bydd y cyfranogwr yn gallu gwneud asesiadau risg yn hyderus. Bydd hyn yn eich helpu i ddiogelu'ch staff a'ch busnes, yn ogystal â chydymffurfio â'r gyfraith.

Pwy Ddylai Fynychu?

Unrhyw un y mae'n ofynnol iddo gynnal asesiadau risg yn y gweithle. Mae'r Dyfarniad mewn Asesu Risg yn dysgu ymgeiswyr sut i wneud asesiad risg yn unol â chyngor yr Awdurdod Gweithredol ar Iechyd a Diogelwch: Pum Cam i Asesu Risg. Mae hyn yn arwain at gymhwyster Lefel 2. 

Amcanion Dysgu

Ar ôl cwblhau'r cymhwyster, bydd dysgwyr yn:

  • Deall pwysigrwydd asesiadau risg
  • Deall egwyddorion rheoli risgiau
  • Deall sut i gynnal asesiad risg.

Cynnwys y CwrsMae'r cymhwyster yn cwmpasu'r pynciau canlynol:

  • Y rhesymau dros gynnal asesiadau risg
  • Y brif ddeddfwriaeth mewn perthynas ag asesu risg
  • Canfod peryglon i iechyd a diogelwch
  • Canfod pwy allai gael ei niweidio a sut
  • Cyfrifo sgôr risg briodol
  • Canfod a gwerthuso'r mesurau rheoli presennol
  • Rhoi'r hierarchaeth o fesurau rheoli ar waith
  • Cofnodi canfyddiadau asesiad risg
  • Gwneud argymhellion ar sail y canfyddiadau
  • Adolygu a diwygio asesiad risg 

Hyd 

1 diwrnod  (Amser: 09:15 i 16:30)

Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs

Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk

Gwybodaeth Arall

Bydd yr ymgeiswyr yn cael mynediad i system cymwysterau ar-lein Cyngor Diogelwch Prydain ble caiff y dasg asesu ei chyflawni.  Mae'r asesiad ar-lein yn ymwneud yn uniongyrchol â'ch gweithle ac yn profi sut caiff gwybodaeth a dealltwriaeth eu cymhwyso mewn cyd-destun ymarferol.

Trefnu Lle 

Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn.  Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma​​​​​​​