Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ddyslecsia yn y Gweithle

Budd i'r Sefydliad

Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi clywed am ddyslecsia y dyddiau hyn ac maent yn ymwybodol ei fod yn gyflwr sy'n effeithio ar allu rhywun i ddarllen ac ysgrifennu. Fodd bynnag, gall dyslecsia effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd a pheri anhawster i wahanol raddau. Sesiwn fer yw Ymwybyddiaeth Dyslecsia yn y Gweithle sydd wedi'i llunio i roi dealltwriaeth i unigolion am sut beth yw bod yn ddyslecsig, sut gall effeithio ar unigolyn yn y gweithle, a sut gellir lliniaru'r effeithiau hynny.

Pwy Ddylai Fynychu?

Mae'r cwrs hwn i unrhyw un a hoffai ddysgu mwy am ddyslecsia, sy'n teimlo efallai bod dyslecsia ganddo/ganddi, neu sy'n rheoli staff â dyslecsia. Gallai hefyd fod o ddiddordeb penodol i adrannau AD sydd o bosibl yn cael ceisiadau gan ymgeiswyr dyslecsig.

Amcanion Dysgu

  • Gallu adnabod arwyddion dyslecsia yn well.
  • Bod yn fwy ymwybodol o'r mathau o swyddogaethau a allai fod yn anodd i rywun sydd â dyslecsia eu cyflawni.
  • Bod â dealltwriaeth o'r term addasiad rhesymol mewn perthynas â dyslecsia yn y gweithle.
  • Bod yn ymwybodol o rai o'r strategaethau y gellir eu defnyddio i gefnogi staff sydd â dyslecsia gan gynnwys meddalwedd llais i destun a thechnolegau eraill. 

Cynnwys y Cwrs 

  • Diffiniad o ddyslecsia
  • Sut gall dyslecsia effeithio ar unigolyn yn y gweithle
  • Dyslecsia a Deddf Cydraddoldeb
  • Y gwahanol ffyrdd y gellir lliniaru'r anawsterau y mae pobl sydd â dyslecsia yn eu hwynebu

Hyd 

2.5-3 hours

Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs

Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk

 

Gwybodaeth Arall

Nid oes gofynion arbennig ar gyfer cymryd rhan yn y cwrs hwn.  

Trefnu Lle

Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn.  Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma​​​​​​​