Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Tystysgrifau marwolaeth

Gellir archebu a thalu am dystysgrifau marwolaeth adeg gwneud y datganiad, ynghyd â'r ddogfen sy'n galluogi i'r angladd gael ei chynnal. Yna, bydd y rhain yn cael eu postio atoch.

Os defnyddir y weithdrefn datganiad, gall gymryd diwrnod neu ddau yn ychwanegol i gyhoeddi'r ddogfen sy'n galluogi i'r angladd fynd yn ei blaen. Dylai perthnasau drafod y trefniadau gyda'u trefnydd angladdau er mwyn osgoi oedi'r angladd.