Crynodeb o ffurflenni a thystysgrifau
Isod, rhestrir rhai o'r ffurflenni a'r tystysgrifau y byddwch yn eu derbyn gan feddygon a Chrwneriaid. Mae'r rhestr yn esbonio pryd a lle y gallwch gael pob ffurflen.
Wrth gofrestru marwolaeth | Byddwch fel arfer yn derbyn | Oddi Wrth |
---|
Os nad yw'r farwolaeth yn cael ei chyfeirio at Grwner | Tystysgrif Feddygol | Meddyg |
Ym mhob achos | Rhybudd Ffurfiol | Meddyg |
Os yw babi yn farw-anedig | Tystysgrif Feddygol o farw-enedigaeth | Meddyg neu Fydwraig |
Os yw'r farwolaeth yn cael ei chyfeirio at Grwner ond nad oes cwest | Hysbysiad gan y Crwner (Ffurflen Binc B/ffurflen 100) | Crwner (fel arfer, mae'r ffurflen hon yn cael ei hanfon at y Cofrestrydd. Fodd bynnag, efallai y gofynnir i chi fynd â hi) |
Os bu cwest a bydd y corff yn cael ei gladdu | Gorchymyn ar gyfer claddu (ffurflen 101) | Crwner |
Os bu post-mortem neu gwest a bydd y corff yn cael ei amlosgi | Tystysgrif ar gyfer Amlosgi (ffurflen E) | Crwner |
Os bydd y corff yn cael ei symud allan o Gymru neu Loegr | Rhybudd Symud (ffurflen 104) | Crwner |