Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith (1 diwrnod)
Sefydliad
Mae'r cwrs un diwrnod hwn yn cydymffurfio â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981 a chanllawiau L74 Cod Ymarfer Cymeradwy ar gyfer cymwysterau i swyddogion cymorth cyntaf yn y gweithle. Mae'r cwrs hwn yn rhoi hyfforddiant cymorth cyntaf sylfaenol i gyfranogwyr.
Pwy Ddylai Fynychu?
Mae'r cwrs hwn wedi'i lunio ar gyfer pobl sydd am gael hyfforddiant cymorth cyntaf mewn argyfwng ac mae'n addas ar gyfer y rhai y gallai fod gofyn iddynt roi cymorth cyntaf mewn amgylchedd gwaith.
Amcanion Dysgu
Ar ôl cwblhau'r cwrs Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng, bydd ymgeiswyr yn deall:-
- Egwyddorion cymorth cyntaf
- Y camau i'w cymryd mewn argyfwng
- Y dull cywir ar gyfer triniaeth cynnal bywyd sylfaenol
- AED (Defnyddio AED, cadwyn goroesi))
Cynnwys y Cwrs
Bydd y cwrs Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng yn cynnwys:
- Nodau ac egwyddorion cymorth cyntaf
- Beth i'w wneud mewn argyfwng
- Rheoli'r claf anymwybodol, gan gynnwys CPR
- Asesu a thrin claf sydd wedi'i anafu neu sy'n gwaedu
- Asesu a thrin llosgiadau a sgaldiadau
- Ymdrin â ffitiau
- Tagu (Oedolion)
- Sioc
- Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
Hyd
1 Diwrnod (Time: 09:30 - 16:30)
Dyddiadau'r Cwrs
Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk
Gwybodaeth Arall
Mae 4 asesiad ymarferol, 1 asesiad theori (Papur Cwestiynau Amlddewis) ac asesu ffurfiannol parhaus a gynhelir drwy gydol y cwrs. Os cwblheir y cwrs hwn yn llwyddiannus rhoddir cymhwyster rheoleiddedig Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng yn y Gwaith, sy'n para 3 blynedd. Bydd angen dull adnabod.
Trefnu Lle
Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn. Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma