Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith (3 diwrnod)

Budd i'r Sefydliad 

Mae'r cwrs hwn yn cydymffurfio â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981 a chanllawiau L74 Cod Ymarfer Cymeradwy ar gyfer cymwysterau i swyddogion cymorth cyntaf yn y gweithle. 

 

Pwy Ddylai Fynychu?

Mae hwn yn gymhwyster rheoleiddedig sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol, ac sydd wedi'i lunio'n benodol ar gyfer y rhai sydd wedi'u penodi'n swyddogion cymorth cyntaf yn eu gweithleoedd. Mae hefyd yn ddelfrydol i bobl sydd â chyfrifoldeb penodol dros roi cymorth cyntaf mewn gweithgareddau gwirfoddol a chymunedol.

 

Amcanion Dysgu 

Ar ddiwedd y cwrs Cymorth Cyntaf yn y Gwaith, bydd ymgeiswyr yn gallu:

  • Asesu a blaenoriaethu digwyddiad cymorth cyntaf  Ymdrin â chlaf anymwybodol
  • Rhoi cymorth dadebru (CPR)
  • Rheoli gwaedu ac ymdrin â sioc
  • Ymdrin ag anafiadau i esgyrn, cyhyrau a chymalau
  • Ymdrin â chlaf sydd wedi cael llosgiadau a sgaldiadau
  • Rheoli anafiadau i'r llygad
  • Ymdrin â chleifion sydd wedi'u llethu gan fygdarth neu wedi'u gwenwyno
  • Ymdrin ag ystod eang o anafiadau ac anhwylderau cyffredin tan fydd gofal meddygol yn cyrraedd
  • Cadw cofnodion cymorth cyntaf
  • Defnyddio a chynnal pecynnau cymorth cyntaf
  • AED (Defnyddio AED, cadwyn goroesi, ystyriaethau diogelwch) 

 

Cynnwys y Cwrs

  • Adrodd ar ddamweiniau ac iechyd gwael
  • Pecynnau Cymorth Cyntaf  
  • Rheoli cleifion anymwybodol
  • Trawiad ar y galon 
  • Dadebru/CPR 
  • Sioc
  • Tagu 
  • Gwaedu
  • Llosgiadau
  • Torasgwrn 
  • Ffitiau
  • Asthma 
  • Sioc Anaffylactig
  • Anafiadau i'r llygad 
  • Diabetes 
  • Llewygu 
  • Hypothermia 
  • Gorludded gwres
  • Trawiad gwres

 

Hyd

3 diwrnod  (Time: 09:30 to 16:30)

 

Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs 

Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk

 

Gwybodaeth Arall 

Mae 6 asesiad ymarferol, 2 asesiad theori (Papurau Cwestiynau Amlddewis) ac asesu ffurfiannol parhaus a gynhelir drwy gydol y cwrs. Os cwblheir y cwrs hwn yn llwyddiannus rhoddir cymhwyster rheoleiddedig Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith, sy'n para 3 blynedd. Bydd angen dull adnabod.

 

Trefnu Lle


Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn.  Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma​​​​​​​