Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymorth Cyntaf yn y Gwaith - Hyfforddiant Ailymgymhwyso (2 ddiwrnod)

Budd i'r Sefydliad 

Mae'r cwrs hwn yn cydymffurfio â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981 a chanllawiau L74 Cod Ymarfer Cymeradwy ar gyfer cymwysterau i swyddogion cymorth cyntaf yn y gweithle. 

 

Pwy Ddylai Fynychu?

Y rhai sydd am adnewyddu eu gwybodaeth ac ailgymhwyso eu tystysgrif Cymorth Cyntaf yn y Gwaith. 

 

Amcanion Dysgu 

Nod y cwrs hwn yw diweddaru ac adnewyddu gwybodaeth am faes llafur Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (3 Diwrnod), gan ganiatáu amser ar gyfer sesiynau adolygu ac ymarfer er mwyn paratoi am asesiad terfynol. 

 

Course Content

  • Adrodd ar ddamweiniau ac iechyd gwael
  • Pecynnau Cymorth Cyntaf
  • Rheoli cleifion anymwybodol
  • Trawiad ar y galon
  • Dadebru/CPR
  • Sioc
  • Tagu
  • Gwaedu
  • Llosgiadau
  • Torasgwrn
  • Ffitiau
  • Asthma
  • Sioc Anaffylactig
  • Eye injuries
  • Diabetes
  • Llewygu 
  • Hypothermia
  • Gorludded gwres 
  • Trawiad gwres

     

Hyd 

2 Ddiwrnod   (Time: 09:30 to 16:30)

 

Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs

Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk

 

Gwybodaeth Arall

Caiff ymgeiswyr eu monitro'n barhaus drwy gydol y cwrs hyfforddiant a bydd angen iddynt hefyd gwblhau asesiad yn llwyddiannus er mwyn adnewyddu eu tystysgrif Cymorth Cyntaf.

 

Trefnu Lle

Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn.  Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma​​​​​​​