Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hyfforddiant codi a chario pobl - diweddaru (1/2 diwrnod)

Budd i'r Sefydliad

Bydd cyflogwyr yn cydymffurfio â'r gofynion arnynt o ran iechyd a diogelwch a bydd gweithwyr cyflog yn osgoi anafiadau poenus a chostus o ganlyniad i godi a symud pobl yn y ffordd anghywir. 

Pwy Ddylai Fynychu?

Yr aelodau hynny o staff y nodwyd yn eu hasesiad risg ar godi a chario bod angen yr hyfforddiant hwn arnynt. 

Amcanion Dysgu

Bydd y cwrs hwn yn rhoi i gyfranogwyr y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder angenrheidiol i sicrhau eu bod yn osgoi cymaint â phosibl y risg o anaf cyhyrysgerbydol wrth symud pobl. Mae'r hyfforddiant hwn yn ffordd allweddol o sicrhau bod y rhai sy'n codi a chario yn gallu dewis y dull cywir o symud ac yn gallu gwneud defnydd diogel o unrhyw gyfarpar sydd ei angen i reoli'r risg. 

Cynnwys y Cwrs

  • Y gofynion cyfreithiol mewn perthynas â chodi a chario
  • Ymwybyddiaeth o ffactorau achosol a'r mathau o anafiadau cyhyrysgerbydol
  • Rhoi gwybodaeth mewn perthynas ag atal anafiadau cyhyrysgerbydol
  • Ffyrdd o godi a symud pobl
  • Canfod y peryglon sydd ynghlwm wrth symud, codi a chario llwythi 

Hyd

2 Ddiwrnod    (Amser: 09:15 to 13:30)

Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs

Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk

Gwybodaeth Arall 

Cyfnod Adnewyddu - Blynyddol 

Trefnu Lle 

Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn.  Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma​​​​​​​