Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hyfforddiant codi a chario pobl - Asesu risg

Budd i'r Sefydliad

Mae nifer o fanteision i fod â gweithiwr cyflog yn eich sefydliad sy'n gwybod sut i gynnal asesiadau risg ar godi a chario pobl yn fwy diogel. Bydd yn canfod peryglon o ran symud, codi a chario yn eich sefydliad ac yn galluogi i'r peryglon hyn gael eu lleihau i'r preswylydd/client a'r gofalwr. Bydd y cyfranogwr hefyd yn cael trosolwg o boen cefn ac anafiadau cyhyrysgerbydol, yn ogystal â'r gofynion cyfreithiol o ran symud, codi a chario

Pwy Ddylai Fynychu?

Pobl sydd â chyfrifoldeb dros gynnal asesiadau risg ar symud, codi a chario yn y sector iechyd neu ofal cymdeithasol. Dylai cyfranogwyr fod â phrofiad o symud, codi a chario pobl a/neu wrthrychau. Maent yn debygol o fod wedi mynychu'r cwrs Hyfforddwyr Codi a Chario Pobl yn fwy Diogel.

Amcanion Dysgu

  • Bod yn gyfarwydd â'r ddeddfwriaeth, â pholisi a gweithdrefnau eu cyflogwr, a'u cyfrifoldebau eu hunain mewn perthynas â chodi a chario. 
  • Bod yn ymwybodol o ddiben asesiadau risg ar godi a chario a sut i'w defnyddio, a gallu cynnal asesiadau risg sylfaenol ar godi a chario yn eu lleoliad gwaith.
  • Gallu blaenoriaethu'r problemau a ganfuwyd a llunio cynllun i osgoi neu leihau'r risg o anaf wrth helpu pobl i symud.
  • Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd datrysiadau ergonomig a bod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o gyfarpar codi a chario a dulliau diogel o godi a chario a all leihau'r risg o anaf.

Cynnwys y Cwrs

  • Trosolwg o boen cefn ac anafiadau cyhyrysgerbydol
  • Ffactorau risg mewn symud, codi a chario
  • Y gofynion cyfreithiol o ran symud, codi a chario
  • Dull systematig, ergonomig ar gyfer asesu risg
  • Strategaethau lleihau risg
  • Asesiadau a dogfennaeth ar godi a chario pobl
  • Prynu cyfarpar priodol ar sail gwerthusiadau ac asesiadau
  • Gwerthuso ffurflenni asesu risg

Hyd 

1/2 Day   ( 09:15 to 13:30)



Dyddiadau

Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk

Gwybodaeth Arall

Er mwyn sicrhau eu bod yn gymwys i asesu risg, gofynnir i gyfranogwyr gwblhau asesiad risg a chynllun codi a chario yn eu lleoliad gwaith a chyflwyno hyn i'w asesu ar ddiwrnod 2 y cwrs.

Trefnu Lle

Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn.  Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma​​​​​​​