Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hyfforddiant Rheoli'n Ddiogel IOSH - Ailymgymhwyso (cwrs undydd)

Budd i'r Sefydliad

Mae Arwain yn Ddiogel yn rhoi i unrhyw un sydd â chyfrifoldeb dros arwain y wybodaeth ymarferol a'r datrysiadau strategol i sicrhau manteision cynaliadwy i'w busnes drwy sefydlu arferion da mewn perthynas â diogelwch ac iechyd

 

Pwy Ddylai Fynychu?

Mae cwrs Arwain yn Ddiogel IOSH wedi'i anelu at Gyfarwyddwyr, Uwchswyddogion Gweithredol, Uwch-reolwyr ac unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb dros arwain.

 

Amcanion Dysgu

Mae'r cwrs yn cwmpasu:-

  • diogelwch ac iechyd a beth mae hynny'n ei olygu i wahanol rolau arwain
  • cyfrifoldebau ac ymddygiad arweinydd
  • sut beth yw arweinyddiaeth effeithiol o ran diogelwch ac iechyd
  • sut i wneud pethau'n iawn
  • sut gall arweinwyr wneud gwelliannau
  • manteision diogelwch effeithiol

 

Cynnwys y Cwrs

  • Holiadur diagnostig ar-lein ar eich ymddygiad arwain diogelwch ac iechyd
  • Adroddiad personol ar sail eich ymatebion, yn cynnwys argymhellion ymarferol ar y camau i'w cymryd a'r gwelliannau i'w gwneud
  • Adolygiad astudiaeth achos, wedi'i deilwra i'ch anghenion a'ch diwydiant
  • System rheoli iechyd a diogelwch Cynllunio, Gwneud, Gwirio a Gweithredu, a sut i integreiddio hynny i systemau busnes
  • Asesir drwy gyflawni ymrwymiad personol - cyfres o gamau i'w cymryd yn dilyn yr argymhellion yn eich adroddiad.

 

Hyd

Dysgu Rhithiol

 

Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs

Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk

 

Gwybodaeth Arall

Caiff cyfranogwyr llwyddiannus Dystysgrif Arwain yn Ddiogel IOSH. Cyfnod Adnewyddu 

3 Blynedd (Cwrs Adnewyddu 1 Diwrnod)

 

Trefnu Lle

Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn.  Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma​​​​​​​